Sefydlwyd Prifysgol Abertawe mewn canrif llawn newidiadau mawr. Ein nod gwreiddiol oedd gwneud gwahaniaeth i bobl yr ardal, mewn oes pan oedd diwydiant yn ei anterth. Gwnaethom ffynnu'n fuan fel sefydliad a gynigiodd arbenigedd technegol yn ogystal ag archwilio sut gallem wella'r gymdeithas drwy ddealltwriaeth gynyddol o feddygaeth, iechyd a hawliau dynol, drwy ddatblygiadau gwyddonol, a thrwy’r celfyddydau a diwylliant.
Wrth gwrs, mae pobl wrth wraidd popeth a wnawn ac mae hyn wedi bod yn wir o'r dechrau. Dros y 100 mlynedd diwethaf, mae pobl wedi creu argraff arhosol ar y Brifysgol, a’r canlyniad yw’r sefydliad sy’n bodoli heddiw.
Yn ystod ein canmlwyddiant, rydym yn dathlu'r bobl hyn: pobl â gweledigaeth, pobl ag uchelgais, arloeswyr sydd wedi ceisio creu cymdeithas well, a byd gwell, drwy ysgolheictod a thrwy ymchwil, a phobl sydd wedi ymroddi eu bywyd proffesiynol i'r Brifysgol, gan ei gwneud yn lle gwell. Pobl sydd wedi cychwyn ar daith ac sydd wedi llwyddo i wireddu eu breuddwydion yw'r rhain. Ein cyn-fyfyrwyr, ein hacademyddion, ein myfyrwyr, ein staff, ein cymuned – y rhain yw ein pobl ysbrydoledig.