Eddie Izzard yn graddio 

Ganwyd y digrifwr, yr actor, yr awdur a’r ymgyrchydd gwleidyddol Edward John Izzard ar 7 Chwefror 1962 yn nhreftadaeth Aden, yn fab iau i'w rieni o Loegr, Dorothy Ella a Harold John Michael Izzard. Pan oedd Eddie'n un oed, symudodd y teulu i Ogledd Iwerddon, gan ymgartrefu ym Mangor, County Down a byw yno nes i Eddie droi'n bump oed. Yna symudodd y teulu i Gymru lle buont yn byw yn Sgiwen, Gorllewin Morgannwg.

Mae Eddie Izzard yn enwog am ei digrifwch swrrealaidd. Yn actor medrus hefyd, mae wedi ymddangos mewn ffilmiau megis Ocean's Twelve, Ocean's Thirteen, Valkyrie a Victoria & Abdul. Mae hefyd wedi gweithio fel actor llais mewn ffilmiau, gan gynnwys The Chronicles of Narnia: Prince Caspian, Cars 2 a The Lego Batman Movie.

Mae wedi ennill gwobrau niferus, gan gynnwys gwobr Primetime Emmy ar gyfer perfformiad unigol mewn rhaglen amrywiaethol neu raglen gerddoriaeth ar gyfer ei gyfres gomedi, Dress to Kill, yn 2000. Enillodd ei gwefan Wobr Dewis y Bobl Yahoo a Gwobr Webby.

Mae wedi ymgyrchu dros achosion amrywiol. Yn 2009, rhedodd 43 o farathonau mewn 51 o ddiwrnodau ar gyfer Sport Relief, er nad oedd ganddi brofiad blaenorol o redeg pellteroedd hir.

Mae wedi ymgyrchu dros y Blaid Lafur am y rhan fwyaf o'i bywyd. Rhoddodd ddau gynnig ar gael ei ethol i sedd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur, a phan ymddiswyddodd Christine Shawcroft ym mis Mawrth 2018, cymerodd ei lle yn awtomatig.

Cyflwynodd Prifysgol Abertawe radd er anrhydedd i Eddie Izzard yn ystod seremonïau graddio’r Brifysgol yn haf 2019. Meddai'r digrifwr Max Boyce, a oedd yn cyflwyno'r wobr: “Fel rhywun sy'n gwbl ymwybodol o natur ansicr comedi a'r gofynion cysylltiedig, rhaid i mi ganmol Eddie Izzard a’i athrylith gomedïaidd i’r cymylau.”

Wrth dderbyn ei wobr, meddai Izzard: “Ar ôl mynychu ysgol gynradd yn Abertawe yn ystod fy mhlentyndod (Ysgol Tŷ Oakleigh), mae'n hyfryd derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe. Mae'n bleser dychwelyd i un o ddinasoedd fy mhlentyndod. Diolch yn fawr.”