Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut bydd Is-adran Farchnata’r Adran Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn ystod ein cystadleuaeth ac ar ei hôl.

Bydd casglu data personol gennych yn ein galluogi i brosesu eich cais i’r gystadleuaeth ac yn caniatáu i ni gadw mewn cysylltiad â chi i roi gwybod i chi am ein gweithgareddau, ein cyfleoedd a’n datblygiadau.

Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu eich gwybodaeth ac i fod yn dryloyw am yr wybodaeth sydd gennym. Fodd bynnag, os hoffech ddarllen rhagor am ymrwymiad y Brifysgol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac i fod yn dryloyw’n gyffredinol, ewch i Dudalennau Gwe Diogelu Data’r Brifysgol.

Defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol

Prifysgol Abertawe yw’r rheolydd data ac mae’n ymrwymedig i ddiogelu hawliau cleientiaid a phartneriaid, yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd. Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data a gellir cysylltu â’r unigolyn hwn yn dataprotection@abertawe.ac.uk

Pa wybodaeth byddwn yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae angen i’r Brifysgol gasglu’r wybodaeth ganlynol er mwyn prosesu eich enwebiad ar gyfer cystadleuaeth y ‘Placiau Glas Tywyll’:

  • Enw (pob unigolyn y cyfeirir ato yn y cais i’r gystadleuaeth)
  • Dyddiad
  • Manylion yr atgof
  • Cyfeiriad e-bost

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

Bydd y Brifysgol yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei darparu i brosesu eich enwebiad ac i roi gwybod i chi am ddatblygiadau ynghylch cystadleuaeth y ‘Placiau Glas Tywyll’.

Bydd yr wybodaeth a rowch i'w harddangos ar y plac yn weladwy, gan gynnwys enwau a dyddiadau, ar y plac ac ar ein tudalennau gwe arbennig am y Canmlwyddiant ar wefan y Brifysgol, a gallai ymddangos mewn deunydd marchnata er mwyn hysbysebu’r fenter ‘Placiau Nefi’.

Pa sail gyfreithiol byddwn yn dibynnu arni i brosesu eich data?

Mae angen prosesu eich data personol er mwyn i’r Brifysgol gyflawni buddion dilys mewn perthynas â gweinyddu’r gystadleuaeth a rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau ynghylch cystadleuaeth y ‘Placiau Glas Tywyll’.

Pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gyflawni ein buddion dilys, byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried yr effeithiau posib y gallai’r gweithgarwch hwn eu cael arnoch chi. Nid yw ein buddion dilys ni’n trechu eich rhai chi’n awtomatig ac ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth os credwn y dylai eich buddion chi drechu ein rhai ni, oni bai fod gennym seiliau eraill i wneud hynny (megis eich cydsyniad chi neu ddyletswydd gyfreithiol).

Pwy fydd yn derbyn eich gwybodaeth?

Bydd gwybodaeth rydych yn ei darparu i ni’n cael ei chadw gan Brifysgol Abertawe.

Caiff eich gwybodaeth bersonol ei storio ar ein systemau a’n cronfeydd data electronig diogel a bydd ar gael i gydweithwyr yn y Brifysgol sydd â’r caniatâd priodol. Mae’r Brifysgol yn diogelu gwybodaeth bersonol ac ni fydd yn ei datgelu i sefydliadau trydydd parti heb gydsyniad penodol.

Bydd gwybodaeth ar gael i aelodau staff y mae angen iddynt gael mynediad ati, mewn amgylchiadau cyfyngedig ac am y rhesymau a nodir uchod. Mae’r rhain yn cynnwys staff gweinyddol a marchnata’r Brifysgol.

Sut caiff eich gwybodaeth bersonol ei storio?

Mae deddfwriaeth Diogelu Data’n gosod dyletswydd arnom i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y byddwn yn parchu eich cyfrinachedd ac yn cymryd pob cam priodol i atal mynediad a datgelu anawdurdodedig.

Ni chaiff neb ei awdurdodi i gael mynediad at eich gwybodaeth ar wahân i’r aelodau staff hynny mae angen iddynt gael mynediad at eich gwybodaeth neu rannau perthnasol ohoni. Caiff gwybodaeth amdanoch chi ar ffurf electronig ei diogelu gan gyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill a’i storio ar rwydweithiau diogel y Brifysgol. Bydd ffeiliau papur yn cael eu storio mewn mannau diogel lle rheolir mynediad atynt.

Bydd y Brifysgol yn defnyddio systemau rheoli cynnwys trydydd parti, sy’n defnyddio systemau’r cwmwl i brosesu data personol, i ddosbarthu deunyddiau marchnata uniongyrchol yn unol â chytundebau prosesu data’r UE/AEE.

Gall fod adegau pan fydd eich data personol yn cael ei gadw ar weinyddwyr y tu allan i’r UE. Os bydd data’n cael ei brosesu y tu allan i’r UE, bydd y Brifysgol yn sicrhau ei fod yn cael ei drosglwyddo mewn modd cyfreithlon a bod modd cyfiawnhau hyn yn unol â’r GDPR.

Am faint o amser bydd eich data’n cael ei gadw?

Byddwn yn cadw’r data a gyflwynir er mwyn gweinyddu’r gystadleuaeth am ddwy flynedd o Ddyddiad Cyhoeddi’r gystadleuaeth.

Bydd yr wybodaeth a ddefnyddir ar y Placiau Nefi a’r tudalennau gwe cysylltiedig, a deunydd marchnata’r ymgyrch, yn cael ei chadw am bum mlynedd.

Byddwn yn cyhoeddi newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar ein gwefan ac yn eich hysbysu am hyn drwy gyfryngau cyfathrebu eraill lle bo hyn yn briodol.

Eich cyfrifoldebau chi

Dylech roi gwybod i’r tîm Marchnata drwy e-bostio marketing@abertawe.ac.uk os bydd eich enw neu eich manylion cyswllt yn newid, cyn gynted â phosib, fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.

Tynnu cydsyniad yn ôl

Os derbyniwch negeseuon dieisiau, byddwch yn gallu datdanysgrifio unrhyw adeg o dderbyn e-byst gennym.

Os ydych wedi cydsynio i Brifysgol Abertawe brosesu unrhyw ran o’ch data, mae gennych hawl i dynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl ac i ofyn i’r Brifysgol ddileu eich data pan na fyddwch am dderbyn gwybodaeth farchnata gennym mwyach.

Yn unol â’r ddeddfwriaeth, byddwn bob amser yn rhoi cyfle i chi ddewis peidio â derbyn deunyddiau marchnata perthnasol yn y dyfodol.

Rhowch wybod i’r tîm Marchnata drwy e-bostio marketing@abertawe.ac.uk os hoffech i ni ddileu eich manylion o’n cronfa ddata cyfathrebiadau marchnata.

Pa hawliau sydd gennych?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu a chyfyngu ar eich gwybodaeth bersonol ac i’w throsglwyddo (sylwer, fodd bynnag, bod hyn yn debygol o effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaeth i chi yn y ffordd fwyaf effeithiol, os o gwbl).

I gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â’ch hawliau, ewch i Dudalennau Gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe.

Dylid cyfeirio ceisiadau neu wrthwynebiadau’n ysgrifenedig at sylw Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol:

Bev Buckley
Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data)
Swyddfa’r Is-ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP

dataprotection@abertawe.ac.uk

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd mae eich gwybodaeth bersonol wedi cael ei phrosesu, gallwch gysylltu, yn y lle cyntaf, â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn anfodlon wedi gwneud hynny, mae gennych hawl i gysylltu’n uniongyrchol â’r Comisiynydd Gwybodaeth i ofyn am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow Lane
Swydd Gaer
SK9 5AW

ico.org.uk