Kingsley Amis yw un o nofelwyr mwyaf adnabyddus Prydain ers y rhyfel ac yn un o’r bobl bwysicaf sydd wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n gweithio yma rhwng 1949 a 1961. Ym 1954, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, a oedd yn boblogaidd yn syth. Ei theitl oedd Lucky Jim ac roedd yn ddychan doniol ar bwnc addysg uwch mewn prifysgol daleithiol. Mae tebygrwydd amlwg ag Abertawe, er dywedodd Amis bob amser fod y stori’n fwy seiliedig ar Gaerlŷr lle'r oedd ei ffrind Phillip Larkin wedi bod yn gweithio bryd hynny. Mae’n anodd dychmygu nad oedd gweithio yn Abertawe wedi dylanwadu ar y ffordd y gwnaeth Amis saernïo Lucky Jim. Roedd llawer o’i nofelau diweddarach, gan gynnwys That Uncertain Feeling wedi’u seilio ar de Cymru, ynghyd â The Old Devils, a enillodd Wobr Booker i Amis ym 1986.
Sir Kingsley Amis, 1969. © National Portrait Gallery.