Kingsley Amis yw un o nofelwyr mwyaf adnabyddus Prydain ers y rhyfel ac yn un o’r bobl bwysicaf sydd wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n gweithio yma rhwng 1949 a 1961. Ym 1954, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, a oedd yn boblogaidd yn syth. Ei theitl oedd Lucky Jim ac roedd yn ddychan doniol ar bwnc addysg uwch mewn prifysgol daleithiol. Mae tebygrwydd amlwg ag Abertawe, er dywedodd Amis bob amser fod y stori’n fwy seiliedig ar Gaerlŷr lle'r oedd ei ffrind Phillip Larkin wedi bod yn gweithio bryd hynny. Mae’n anodd dychmygu nad oedd gweithio yn Abertawe wedi dylanwadu ar y ffordd y gwnaeth Amis saernïo Lucky Jim. Roedd llawer o’i nofelau diweddarach, gan gynnwys That Uncertain Feeling wedi’u seilio ar de Cymru, ynghyd â The Old Devils, a enillodd Wobr Booker i Amis ym 1986.

Sir Kingsley Amis, 1969. © National Portrait Gallery.

Black and white portrait of Sir Kingsley Amis, 1969.
An interview with Kingsley Amis in Crefft, the student newspaper, 1954

Wrth gael ei gyfweld am raglen Desert Island Discs y BBC ym 1986, ailadroddodd Amis rywbeth a oedd wedi ysgrifennu’n aml, sef bod ei waith gorau wedi’i gyflawni wrth iddo fyw yn Abertawe. Er gwaethaf ei enw ymhlith rhai pobl, mae digonedd o dystiolaeth sy’n dangos yr oedd Amis yn ddarlithydd brwdfrydig a hoffus a oedd yn cysylltu â’i fyfyrwyr ac a rhoddodd o’i amser yn hael. Yn aml, byddai dosbarthiadau’n cael eu cynnal yn y dafarn, a byddai myfyrwyr yn cael eu gwahodd i’w dŷ, ond treuliodd llawer o amser yn gwneud gweithgareddau fel bod yn feirniad mewn cystadlaethau stori fer i fyfyrwyr.

Cyfweliad â Kingsley Amis, papur newydd myfryrwyr Crefft, 1954. © Undeb Myfrywyr Prifysgol Abertawe.

Ceir y deunyddiau drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.