A portrait of John Henry Vivian, drawn on stone by J.H.Lynch. c.1850

Sefydlwyd Coleg Prifysgol Abertawe ym 1920. Bron a bod o’r cychwyn cyntaf, roedd staff a myfyrwyr yn ymchwilio, yn addysgu ac yn astudio ym Mharc Singleton. Yng nghanol y Coleg roedd Abaty Singleton. Dyma oedd cartref y diwydianwyr cyfoethog, y teulu Vivian, a brynodd yr adeilad ym 1817. Ar ôl ei brynu, ehangodd John Henry Vivian y strwythur gwreiddiol er mwyn iddo ymdebygu i’r Abaty presennol. Nid yw erioed wedi bod yn adeilad eglwysig; Fe’i gelwir yn Abaty oherwydd ei fod wedi’i adeiladu yn arddull neo-gothig. Roedd y teulu Vivian o dras Cernyweg ac roeddent yn berchen ar weithfeydd copr mawr yr Hafod yn Abertawe. Fodd bynnag, erbyn 1919, daeth yr Abaty, bellach yn adfeilio, i berchnogaeth yr awdurdod lleol. Ym 1923, rhoddodd y Cyngor yr Abaty a 34 erw o dir i’r Brifysgol.

John Henry Vivian (1785-1855) llun wedi’r dynnu ar garrey gan J.H.Lynch, tua’r 1850au.

Yn ystod blynyddoedd y Coleg, yr Abaty oedd y prif adeilad  lle cynhaliwyd darlithoedd a dosbarthiadau a dyma oedd hefyd leoliad y labordai, yr ystafell gyffredinol, y llyfrgell a’r ffreutur. Daeth diffyg lle i fod yn broblem yn gyflym, ynghyd ag ymarferoldeb. Yn y bôn, roedd y Coleg yn ceisio gweithredu o hen blasty'r teulu Vivian. Roedd yr hen ystafell fwyta bellach yn ddarlithfa, roedd yr orendy’n ffreutur ac roedd cyfres o ystafelloedd gwely yn ystafelloedd dosbarth. Roedd y ffaith y codwyd yr adeilad mewn camau, ac ar adegau mewn ffordd a oedd braidd yn ecsentrig, yn ychwanegu at y cymhlethdod hwn. Erbyn canol y 1920au, roedd pafiliynau dros dro wedi’u codi ar diroedd Parc Singleton i fod yn gartref i adrannau megis Peirianneg, Ffiseg a’r Celfyddydau.

Mae’r Abaty yn parhau i fod yn adeilad canolog Prifysgol Abertawe heddiw. Dyma leoliad yr uwch-dîm rheoli a’r timoedd gweinyddol. Mae ystafelloedd a oedd yn ystafelloedd ciniawa crand mewn oes a fu ac yna’n ddarlithfa, bellach yn Siambr y Cyngor.

An external photo of Singelton Abbey, c.1890

Abaty Singleton, tua’r 1890au

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sefydlu Prifysgol Abertawe drwy ddarllen traethawd Hugh Jones am Frank Gilbertson, Llywydd cyntaf y Coleg a diwydiannwr lleol. 

A photo of the dining room in Singleton Abbey. A table and chairs sit beneath a grand chandelier.

Yr Ystafell FwytaAbaty Singeltontua’r 1890au

A lecture theatre in the Abbey in the 1920s. Rows of seats in a grand room with paintings and an ornate fireplace.

Ystafell Ddarlithio, Abaty Singleton. tua’r 1920au

Ceir y deunyddiau drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.