Yr Her
Mae marchnad gynyddol am driniaethau a chynhyrchion cosmetig (neu esthetig) anfewnwthiol neu rai sydd mor anfewnwthiol â phosib ledled y byd. Mae'n cymryd amser i ddatblygu cynnyrch a reoleiddir ac mae costau sylweddol cysylltiedig i gwmni o ran datblygu'r arbenigedd angenrheidiol i ymchwilio i gynnyrch newydd a chreu prototeip. Mae Innoture, cwmni technoleg feddygol ag arbenigedd mewn micronodwyddau, wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i ddatblygu trefn newydd i ymdrin â heneiddio drwy ddefnyddio clytiau â micronodwyddau.
Y Dull
Mae adran ymchwil Innoture wedi'i chydleoli yn y Ganolfan NanoIechyd ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi galluogi Innoture i gael gafael ar gyfarpar ac arbenigedd gan staff Cemeg a Pheirianneg yn Abertawe. Wrth weithio gyda Phrifysgol Abertawe am nifer o flynyddoedd, llwyddodd Innoture i ddatblygu ei dechnoleg micronodwyddau a'i chyflwyno i'r farchnad
Yr Effaith
Lansiodd Innoture Radara, sef trefn newydd i ymdrin â heneiddio drwy ddefnyddio clytiau microsianelu a serwm asid hyalwronig (HA) pur iawn, gan ganolbwyntio ar y llecyn o dan y llygad, yn 2016. Rhoddwyd sylw i'r clytiau yn Cosmopolitan, Tatler a Vogue, ac maent wedi ennill gwobrau yn y diwydiant estheteg. Mae'r clytiau bellach ar gael mewn nifer o glinigau gofal croen ledled y DU, ac er gwaethaf y pandemig, maent yn darparu refeniw i'r cwmni. Mae Innoture a Phrifysgol Abertawe bellach yn ymchwilio i ffyrdd eraill o ddefnyddio eu technoleg ficrosianelu, gan gynnwys darparu brechlynnau a chyffuriau lladd poen.