Mae’r e-Hwb wedi ei lwytho ag adnoddau bydd yn dy helpu ac yn ategu at y gefnogaeth gallet gael mynediad at o dy dîm Career Boost. O ennill profiad go iawn o’r byd gwaith a chael mynediad at hyfforddiant gyrfaol i ddatblygu sgiliau penodol ac ymgysylltu yn uniongyrchol a chyflogwyr posib, mi fyddi yn derbyn cymorth dan arweiniad, sy’n wybodus ac yn ddefnyddiol ac fe fydd yr e-Hwb yn ychwanegu at y cymorth hwn. 

Dyma gipolwg o’r mewnwelediadau sydd i’w cael ar y platfform:

  • Wynebu realiti: Adnabyddwch y sgiliau yr ydych wedi ei meithrin yn ystod eich amser yn y brifysgol neu’r coleg a datblygwch y gallu proffesiynol rydych wedi ei ddatblygu drwy gydol eich siwrnai academaidd gyda mewnwelediadau’r e-Hwb.
  • Datrys problemau yn y byd go iawn: Tu hwnt i ddysgu yn unig, mae eich bywyd prifysgol neu goleg yn eich paratoi ar gyfer heriau symud i amgylchedd gwaith. Canfyddwch sut mae eich gweithgareddau academaidd yn eich helpu i fynd i’r afael a sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
  • Gwerth amrywiaeth: Dysga rinweddau hyrwyddo amrywiaeth gan ddysgu sut mae meithrin cymysgwch o gefndiroedd gwahanol yn gyrru arloesedd ac yn ehangu gorwelion.
  • Datrys gwrthdaro: Dysga sut gall dy brofiadau prifysgol lywio dy allu i ddatrys gwrthdaro mewn modd adeiladol.
  • Symud i mewn i’r byd proffesiynol: der i ddeall y symudiad rhwng cyraeddiadau academaidd unigol i gofleidio dull o weithio sy’n blaenoriaethu tîm mewn awyrgylch proffesiynol.
  • Addasu i normau’r gweithle: cymer olwg ar reolau cynnil y gweithle nad ydynt yn cael eu trafod yn aml.
  • Acronymau a jargon: paid â cholli dy hunan mewn termau. Mae’r e-Hwb yma i helpu i hwyluso termau dryslyd diwydiant, gan neud yn siŵr dy fod gam ar y blaen.
e-Hwb

Os nad ydych wedi cofrestru gyda’r Hwb Gyrfaoedd eto, gwnewch hynny nawr er mwyn achub ar bob cyfle sydd ar gael i chi!