"Mae Ymchwil ac Arloesi yng ngwaed Microsoft ac mae'n hanfodol i'n cenhadaeth 'i rymuso pob unigolyn a phob sefydliad ar y blaned i gyflawni mwy.
"Mae ein cydweithio â Phrifysgol Abertawe wedi bod yn wych ar sawl lefel. Mae'r gwaith ei hun yn cynnig safbwynt pwysig ynghylch dylunio a deall sut gall technolegau cyfrifiadura a thechnolegau digidol gael eu defnyddio gan bobl na chânt eu hystyried fel arfer wrth inni adeiladu'r systemau hyn, ac ar ran y bobl hyn. Mae'r ddealltwriaeth hon yn hollbwysig i ddarparwr technolegau byd-eang.
"Fel gydag unrhyw gydweithio da, mae'r gwaith hwn wedi arwain at syniadau a phartneriaethau newydd gyda thîm Abertawe yr ydym yn gyffrous iawn yn eu cylch. Arweiniodd y cydweithrediad yn uniongyrchol at brosiect newydd a oedd yn canolbwyntio ar gasglu set ddata anabledd yn gyntaf o leoliadau adnoddau isel yn y de byd-eang.
"Mae tîm prosiect Abertawe yn wych i weithio gyda nhw – ymchwilwyr proffesiynol, craff â’u pennau a’u calonnau yn y lle iawn.”
Edward Cutrell, Uwch Brif Reolwr Ymchwil, Microsoft
"Rwyf wedi dilyn gwaith Prifysgol Abertawe drwy eu cyhoeddiadau ym maes Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron ers sawl blwyddyn cyn i ni gael cyfle i gydweithredu. Gweithiodd Abertawe gyda chydweithwyr yn ITT Bombay, gan osod seinyddion stryd (yn debyg i Alexa neu Siri) mewn siopau yn Dharavi, un o faestrefi Bombay, i alluogi cwsmeriaid i ofyn cwestiwn a chael atebion gan naill ai cynorthwyydd llais cyfrifiadur neu i siarad â pherson.
"Mae'r 12 mlynedd diwethaf wedi bod yn bleser o’r mwyaf. Rydyn ni wedi dysgu llawer gan Brifysgol Abertawe am arferion ymchwil a rhannu nifer o allbynnau ymchwil, gan gynnwys papurau, offer a gwersi. Yn bersonol, rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan gydweithwyr sydd wedi sefydlu a gweithredu labordy llwyddiannus sy'n gweithio ar broblemau heriol iawn y byd."
Yr Athro Anirudha Joshi, IIT Bombay