In the Footsteps of Elephants
Gyda Dr Kate Evans ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Ymunwch â Dr Kate Evans ar ei thaith bersonol; o'r myfyriwr graddedig o Brifysgol Abertawe a aeth i achub yr eliffant Affricanaidd, i Sefydlu'r elusen Elephants for Africa. Bydd yn ein tywys ar ei hanturiaethau, gan ddechrau gydag addewid a wnaeth i eliffant pan oedd hi'n 7 mlwydd oed. Addewid sy'n parhau i'w hysgogi heddiw wrth iddi arwain yr elusen Elephants for Africa.
Cymerodd beth amser i Kate sylweddoli, er mwyn gwarchod eliffantod Affrica, roedd yn rhaid iddi weithio gyda phobl. Pobl efallai nad ydynt yn gweld eliffant fel yr anifail godidog ydyw sydd â'r hawl i grwydro'r ddaear hon. Pobl nad ydynt yn eu gweld nhw fel unigolion ag anghenion ac eisiau, sy'n gofalu am eraill cymaint ag ydym ni. Mae pobl yn eu hofni nhw, yn eu casáu nhw ac nid ydynt am iddynt fod ar eu tiroedd wrth iddynt ymdrechu i droi llwch yn fwyd i'w plant. Pobl sydd am i'w plant allu cerdded i'r ysgol yn ddiogel, a gallu tyfu digon o gnydau i'w gwerthu fel y gallant fforddio anfon eu plant i'r ysgol.
Felly beth yw'r atebion? All pobl a bywyd gwyllt fyw ochr yn ochr? Dyma rywbeth y mae Kate a'r tîm yn Elephants for Africa yn ceisio ei gyflawni.