Keep Calm and Carry On… Coaching
Philosophy, Culture and Performance Management
Gwisgwch dracsiwt, cydiwch yn eich chwiban a'ch stopwatsh a chi'n barod i fynd, ond ydych? Nac ydych.
Ymunwch â chyn-fyfyriwr Abertawe, Neil Hennessy, a Sean Holley, cyn brif bennaeth y Gweilch sydd bellach yn sylwebydd ac yn ddadansoddwr rygbi arbenigol, am gipolwg unigryw ar fyd hyfforddi chwaraeon. Bydd y sgwrs fywiog ac anffurfiol hon yn archwilio tair prif agwedd ar hyfforddiant chwaraeon: athroniaeth, diwylliant a rheoli perfformiad.
Mae hyfforddiant yn gymhleth o'i hanfod. Gyda datblygiad chwaraeon proffesiynol, gwelwyd genedigaeth Gwyddor Hyfforddi fel disgyblaeth academaidd a'r 'hyfforddwr' fel ymarferydd proffesiynol go iawn. Mae'r cysyniad 'Cynllunio-Gweithredu-Adolygu' yn ddilyniant or-syml nad yw'n gwneud cyfiawnder â natur ac ymarfer hyfforddiant chwaraeon. Ymunwch â Neil a Sean am archwiliad trylwyr o gelfyddyd a gwyddoniaeth hyfforddi
“… coaches as inventive practitioners who work in such a complex and ambiguous way that can never be captured within a process.” (Cushion, 2007, t. 396)
Cadwch eich lle
Dr Neil Hennessy yw'r Prif Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Ar ôl graddio â BA (Anrh.) mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe, astudiodd am TAR lefel Gynradd yng Ngholeg Homerton, Prifysgol Caergrawnt. Dychwelodd i Abertawe i astudio am MPhil mewn Seicoleg Chwaraeon cyn cwblhau ei astudiaethau Lefel 7 yn UWIC, gan ennill MSc mewn Gwyddor Hyfforddi. Dyfarnodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ysgoloriaeth PhD i Neil ac enillodd ei Ddoethuriaeth mewn addysgeg ac athroniaeth chwaraeon yn 2014.
Yn dilyn cyfnod byr yn chwarae rygbi proffesiynol, dechreuodd Neil ddyfarnu mewn gemau ac roedd yn un o swyddogion elît diwrnod gêm a TMO Undeb Rygbi Cymru am dros ddegawd. Fel dyfarnwr, bu Neil yn gweithio'n agos gyda charfan hŷn a charfannau ar sail oedran cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru, gan ddarparu cymorth a dadansoddiad technegol. Mae ei ymchwil i ddatblygu cyfannol mewn rygbi wedi cael ei chynnwys yn rhaglen addysg i hyfforddwyr Undeb Rygbi Cymru.
Mae diddordebau academaidd Neil yn cynnwys dwyieithrwydd, hyfforddi, dyfarnu, addysgeg, ac athroniaeth a moeseg chwaraeon.
Mae Sean Holley yn dadansoddi rygbi o’r stiwdio ar gyfer rhaglen deledu Scrum V BBC Wales ac mewn darllediadau allanol. Mae Sean yn darparu sylwebaeth a dadansoddiad yn ystod y gêm ac ar ei hôl. Mae hefyd yn gweithio i BT Sport, Sky Sports, S4C ac mae'n cyflwyno'r sioe wythnosol arobryn 'Rugby Nation' ar Nation Radio. Mae Sean yn ysgrifennu erthyglau am agweddau technegol hyfforddi ar gyfer nifer o gyhoeddiadau ac mae'n ysgrifennu colofn fisol reolaidd yng nghyhoeddiad rygbi mwyaf poblogaidd y byd, Rugby World.
Bu Sean yn Brif Hyfforddwr Rygbi'r Gweilch am naw tymor - dros 250 o gemau. Mae wedi gweithio gyda'r Llewod, enillwyr y Gamp Lawn, y Crysau Duon a'r Springboks, gan gynnwys chwaraewyr fel Shane Williams, Gavin Henson, Adam Jones, Ryan Jones, Tommy Bowe, Justin Marshall, Jerry Collins, Scott Gibbs, Mike Phillips a llawer mwy. Mae hefyd wedi gweithio fel Hyfforddwr i Undeb Rygbi Cymru ar bob lefel, gan gynnwys gyda'r Tîm Cenedlaethol yn 2005 a 2009. Bu gan Sean nifer o rolau proffil uchel eraill ym myd rygbi hefyd. Ef oedd hyfforddwr rhanbarthol mwyaf llwyddiannus Cymru - a'r un a wasanaethodd ei ranbarth am y cyfnod hwyaf - gan helpu'r Gweilch i ennill pum teitl ac i gyrraedd wyth olaf Cwpan Heineken ar dri achlysur. Yn 2013, penodwyd Sean yn Brif Hyfforddwr Rygbi Bryste ac, yn ei dymor cyntaf, gorffennodd Bryste ar frig Pencampwriaeth Lloegr, gan sgorio mwy o geisiadau a phwyntiau nag erioed o'r blaen. Gadawodd yn 2016 ar ôl helpu Bryste i ennill dyrchafiad i Uwch-gynghrair Aviva.
Cushion, C. (2007). Modelling the complexity of the coaching process. International Journal of Sports Science & Coaching, 2(4), 395-401.