Seen But Not Heard
Children and Young People’s mental health and suicidal behaviours during the Pandemic
Bydd pandemig y Coronafeirws yn gadael craith ddofn a hirhoedlog ar iechyd meddwl cynifer o bobl, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Mae unigrwydd a bod ar wahân, pryderon am waith ysgol, coleg neu brifysgol, yn ogystal ag ofnau cynyddol am y dyfodol, yn cael effaith drychinebus.
Ymunwch â'r Athro Ann John yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i glywed rhagor am yr effeithiau hirdymor ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Bydd hi'n trafod ei hymchwil ei hun ac ymchwil sefydliadau eraill.
Mae Ann yn Athro Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ffocws ei gwaith ymchwil yn cynnwys atal hunanladdiad a hunan-niweidio ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae hi'n arwain y Platfform Data Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a hi yw Cadeirydd Grŵp Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio. Mae Ann yn aelod o Ymddiriedolwyr y Sefydliad Iechyd Meddwl ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi bod yn aelod o Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ac o'r Grŵp Mewnwelediad Gwyddonol Annibynnol i'r Pandemig ar Ymddygiadau (SPI-B), un o is-grwpiau SAGE. Mae’n hi’n angerddol am droi ymchwil yn bolisi ac ymarfer.
Ddarllen rhagor am hanes yr Athro Ann John o ymarfer cyffredinol i ymchwilydd atal hunanladdiad.
Drwy ddangos eich cefnogaeth heddiw, byddwch yn sicrhau y bydd modd troi cam nesaf yr ymchwil hon yn ymarfer wrth sicrhau hefyd y bydd modd ehangu cyrhaeddiad yr ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus sy'n amlygu'r heriau iechyd meddwl y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Erys cynifer o bethau i'w deall o hyd am achosion, dulliau atal a thrin iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc a chyda'ch cymorth chi gall yr ymchwil arloesol hon barhau felly rhowch rodd nawr i drawsnewid bywydau.
Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac wythnos ymwybyddiaeth
ym Mhrifysgol Abertawe.