Graddiodd Christian Saunders o Abertawe ym 1988 â gradd Meistr mewn Epidemioleg a Chynllunio Iechyd. Ar hyn o bryd, Christian yw Comisiynydd Cyffredinol Gweithredol Asiantaeth y Cenhedloedd Unedig dros Gymorth a Gwaith i Ffoaduriaid Palesteinaidd. Mae Christian yn gyfrifol am weithlu o 30,000 ac mae’n rheoli cyllideb gwerth $1.4 biliwn. Cawsom sgwrs â Christian yng nghanol argyfwng COVID-19 i ofyn ychydig gwestiynau iddo am ei yrfa a’i amser yn Abertawe.
Roeddech chi’n gweithio gyda ffoaduriaid yn Swdan a chyda phlant ym Mozambique yn y cyfnod pan oeddech chi’n ysgrifennu eich traethawd estynedig. Sut digwyddodd hynny?
Derbyniais i gynnig swydd gyda Chronfa Achub y Plant ar ddiwrnod fy arholiad olaf yn Abertawe. Dyna’r unig gynnig roeddwn i wedi’i dderbyn ac roedd y rôl yn swnio’n hynod ddiddorol – rheoli gwersyll ffoaduriaid ar gyfer ffoaduriaid o Ethiopia ac Eritrea felly achubais i ar y cyfle’n syth. Yna es i ati i ysgrifennu fy nhraethawd estynedig dros y ddwy flynedd nesaf ar yr un pryd â gweithio gyda Chronfa Achub y Plant yn Swdan ac wedyn ym Mozambique yn ystod y rhyfel cartref.
Beth oedd eich tri hoff beth am y cwrs?
- Cynnwys y cwrs.
- Y cyfranogwyr amrywiol o ran cefndiroedd, oedrannau, profiadau a chenedligrwydd ar y cwrs.
- Roedd arweinwyr ac athrawon y cwrs yn ymrwymedig, yn wybodus ac yn gymwynasgar.
"Mae fy mhrofiad yn Abertawe wedi fy helpu’n sylweddol o ddiwrnod cyntaf fy swydd gyntaf gyda Chronfa Achub y Plant..."
Ble rydych chi’n gweithio nawr? I ba raddau mae eich profiad yn Abertawe wedi eich helpu i lwyddo yn eich gyrfa?
Fel Comisiynydd Cyffredinol Gweithredol UNRWA – Asiantaeth y Cenhedloedd Unedig dros gymorth a gwaith i Ffoaduriaid Palesteinaidd, rwy’n gyfrifol am ddarparu diogelwch a gwasanaethau hanfodol – gan gynnwys addysg, gofal iechyd sylfaenol, cymorth, gwasanaethau cymdeithasol ac isadeiledd gwersyll, i Ffoaduriaid Palesteinaidd yng Ngaza, Banc y Gorllewin, gan gynnwys Dwyrain Jerwsalem, Gwlad Iorddonen, Syria a Libanus. Mae gan UNRWA 30,000 o aelodau staff a chyllideb flynyddol gwerth $1.4 biliwn.
Mae fy mhrofiad yn Abertawe wedi fy helpu’n sylweddol o ddiwrnod cyntaf fy swydd gyntaf gyda Chronfa Achub y Plant, yn rheoli timau iechyd mawr mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Nwyrain Swdan, i’r cyfnod presennol a cheisio atal COVID-19 rhag ymledu ymhlith y 5.6 miliwn o ffoaduriaid Palesteinaidd mae gennym gyfrifoldeb i’w gwasanaethu.
Beth yw cyflawniad gorau eich gyrfa hyd yn hyn?
Cael fy ngwahodd i roi UNRWA yn ôl ar y trywydd iawn mewn cyfnod pan oedd yn wynebu’r diffyg ariannol mwyaf difrifol yn hanes yr asiantaeth, lle’r oedd sefyllfa a oedd eisoes yn anodd yn gwaethygu oherwydd argyfwng hyder yn uwch-reolwyr yr asiantaeth yn dilyn cyhuddiadau o gamreoli.
Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried astudio yn Abertawe?
Efallai nad yw Abertawe’n ddewis amlwg, ond mae amrywiaeth y gymuned o fyfyrwyr a’r cyrsiau sydd ar gael, ynghyd ag ymrwymiad y staff academaidd a chynhesrwydd y Cymry’n golygu ei fod yn brofiad diddorol a gwobrwyol.