Dulliau ymchwil ym meysydd seicoleg a niwrowyddoniaeth wybyddol
Pŵer ymennydd Bre-Anna yn sicrhau PhD o fri iddi
Wrth astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017, gwnaeth Bre-Anna King o Ontario, Canada, gryn effaith gyda'i thraethawd hir a rhoddodd gyfle gwych iddi ddychwelyd i'w gwlad gartref i astudio ar gyfer PhD yn un o brifysgolion gorau'r byd.
Gwnaeth Bre-Anna, a raddiodd gyda gradd MSc mewn Dulliau Ymchwil Seicoleg a Niwrowyddoniaeth Wybyddol, effaith ar ei goruchwyliwr, Hanna Burianova, a anogodd Bre-Anna i gyflwyno'i thraethawd hir i'w gyhoeddi mewn cyfnodolyn gwyddonol a adolygir gan gymheiriaid.
Ers graddio, mae Bre-Anna wedi llwyddo cael lle i astudio PhD ym Mhrifysgol McMaster, Canada, sy'n un o 100 o brifysgolion gorau'r byd. Dywedodd:
"Er imi fynd am un radd, roeddwn i'n gallu cwblhau pedwar prosiect gwahanol gydag athrawon/goruchwylwyr gwahanol mewn disgyblaethau amrywiol. Roeddwn i'n gallu gwneud ymchwil i'r hyn roeddwn i'n angerddol amdano, gan ddefnyddio technegau (fel tDCS) nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt o'r blaen.
Pam Abertawe?
"Roedd fy llety yn ymyl y traeth - cerddais yno bron bob dydd wrth astudio. Roedd popeth a oedd ei angen arnaf yn agos: bwyd, banciau, siopau a chanol y ddinas. Mae'r campws a'r ddinas (a Thraeth Rhosili yn benodol) yn HARDD!
"Roedd llawer o amrywiaeth ar y campws; gan gynnwys nifer o fyfyrwyr rhyngwladol. Ac roedd rhagolygon gyrfa yn uchel."