BA Hanes. Blwyddyn Graddio 2014. Hanesydd Anabledd A Meddygaeth. Cyn-Athletwr a Nofiwr Elît.
Mae Dr Gemma Almond yn athletwraig ac yn academydd medrus, sydd wedi cynrychioli ei gwlad ar lefel ryngwladol, gan ennill gradd Hanes (2014), gradd Meistr mewn Hanes Modern Cynnar (2015) a Doethuriaeth (2019) i gyd ym Mhrifysgol Abertawe. Gofynnon ni i Gemma sut mae hi’n cyfuno’i chariad at astudio a chwaraeon.
Sut dechreuaist ti ym myd chwaraeon?
Dechreuais i ymddiddori mewn chwaraeon yn ifanc achos gan amlaf roeddwn i eisiau copïo popeth roedd fy chwaer hŷn yn ei wneud. Sut bynnag, ces i’m cyflwyno i nofio yn bedair oed pan ges i hydrotherapi yn dilyn pob un o’m pedair prif lawdriniaeth. Rhoddodd yr hydrotherapi’r hyder imi gerdded eto a chariad at y dŵr hefyd. Oherwydd cael fy ngeni gyda dysplasia dwyochrog yn y glun, dyma’r unig le lle nad oes rhaid imi gynnal pwysau a dioddef poen.
Pa adegau fel mabolgampwraig ydych chi’n fwyaf balch ohonynt?
Fy adeg fwyaf balch oedd ennill lle yng ngemau Paralympaidd Llundain 2012 gyda Record Prydeinig newydd. Hwn oedd fy record Prydeinig cyntaf, yn y lleoliad Olympaidd/Paralympaidd, uchafbwynt blynyddoedd o hyfforddi, ac o flaen fy nheulu a’m ffrindiau. Roedd gemau gartref yn gwireddu pob breuddwyd.
"...dim byd sy’n amhosibl gydag ychydig o ymroddiad, gwaith caled a gwydnwch."
Beth mae’r profiadau hyn wedi ei ddysgu i chi?
Dysgodd y profiadau cadarnhaol imi nad oes dim byd sy’n amhosibl gydag ychydig o ymroddiad, gwaith caled a gwydnwch. Profais i ddisgwyliadau meddygol, yn ogystal â’m rhai personol i, yn anghywir am yr hyn roedd fy nghorff yn gallu ei gyflawni a bydda i bob amser yn falch o hynny. Serch hynny, dysgais i hefyd nad yw pethau bob amser yn mynd yn ôl eich dymuniad, waeth pa mor galed rydych chi’n gweithio. Roedd y colli a’r rhwystrau yr un mor werthfawr wrth fy helpu i dyfu fel person a datblygu agwedd gadarnhaol, beth bynnag yr amgylchiadau.
Sut gwnaethoch chi gyfuno chwaraeon ag astudio?
Trwy reoli fy amser yn ofalus iawn! Does dim cuddio ym myd chwaraeon; mae’n rhaid i chi roddi popeth iddo fe ac ymroi 100% i’r hyfforddi. Dyna rywbeth sy’n drosglwyddadwy iawn i’r byd academaidd a dysgais i flaenoriaethu fy amser a sicrhau canlyniadau yn y ddau. Fodd bynnag, rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn i Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu am fod yn gefnogol mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys trefnu asesiadau eraill pan roedd arholiadau neu ddyddiadau cau traethodau yn gwrthdaro â gwersylloedd hyfforddi allweddol neu gystadlaethau. Roedd nifer o’r cymwysiadau hyn yn rhan hanfodol o sicrhau y byddwn i’n cymhwyso ar gyfer y gemau cartref a pherfformio ynddynt, ynghyd â gemau rhyngwladol eraill wrth imi astudio am BA ac MA.
"Rydw i wrth fy modd nad dyna’r achos ac i fod yn angerddol am yr hyn rydw i’n ei wneud (yr ymchwil a chael cyfle i ddysgu, ill dau)."
Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich swydd yn y byd academaidd?
Fel pob athletwr, mae ymddeol o rywbeth sydd wedi cymryd oriau o ymroddiad yn eich bywyd bob wythnos am gyhyd ag y gallwch chi gofio yn anodd iawn. Roeddwn i’n poeni na fyddwn i’n ennill bywoliaeth eto trwy wneud rhywbeth roeddwn i’n ei fwynhau. Rydw i wrth fy modd nad dyna’r achos ac i fod yn angerddol am yr hyn rydw i’n ei wneud (yr ymchwil a chael cyfle i ddysgu, ill dau).
Dywedwch wrthon ni am eich maes ymchwil.
Rydw i’n arbenigo mewn hanes anabledd a meddyginiaeth (yn bennaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg). Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y profiad o fyw gydag anabledd a sut mae anabledd wedi cael ei gategoreiddio, ei fesur a’i ddeall. Mae hyn yn cynnig maes eang o destunau ac ar hyn o bryd rydw i’n gweithio i droi fy ymchwil ddoethur ar sbectol a golwg yn fonograff.
Pa gyfleoedd unigryw mae eich ymchwil yn eu cynnig?
Mae chwaraeon paralympaidd wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd. Mae fy ymchwil yn caniatáu imi barhau i gysylltu â chymunedau anabledd a holi beth yw ystyr a phrofiad o anabledd, a chanfyddiadau am anabledd, mewn dulliau newydd.
"Mae sawl peth yn gyffredin rhwng gyrfa yn y byd academaidd ac ym myd chwaraeon cystadleuol..."
Sut gallwch chi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gredu bod gyrfa chwaraeon cystadleuol neu yn y byd academaidd yn bosibl?
Trwy eu helpu nhw i weld eu potensial ac i weld nad oes rhaid cyfyngu ar yr hyn mae pobl eraill yn credu yw eu gallu. Fel plentyn dywedwyd wrthyf na fyddwn i’n cerdded yn iawn, heb sôn am gymryd rhan mewn chwaraeon a hefyd roeddwn i’n dod o dref fach nad oedd ganddi gyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf. Serch hynny, ni wnaeth hyn fy atal i rhag cyrraedd y lefel uchaf.
Yn y byd academaidd, doedd neb wedi dweud na allwn i, ond roeddwn i’n ymwybodol iawn pa mor gystadleuol oedd hi a bod llawer yn dibynnu ar lwc. Mae sawl peth yn gyffredin rhwng gyrfa yn y byd academaidd ac ym myd chwaraeon cystadleuol, y ddau yn gofyn am waith caled ac yn cynnwys rhwystrau, ond y ddau’n bosibl ac yn werth y daith.
Dyw hi ddim yn golygu bod yn afrealistig er hynny, wnes i ddim ceisio dod yn rhedwraig broffesiynol er enghraifft! Ond, gyda thargedau ac amcanion realistig, ymrwymiad i weithio tuag atyn nhw, a rhwydwaith cefnogi sy’n credu ynddoch chi, gallwch chi gyflawni’r hyn rydych chi wir eisiau ei gyflawni.
Ar beth neu bwy ydych chi eisiau creu argraff?
Y rhai hynny â dysplasia yn y glun ac sydd wedi wynebu rhwystrau tebyg i fi, y rhai hynny sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon anabledd neu sy’n gobeithio am yrfaoedd Paralympaidd, ac unrhyw un sydd wedi teimlo’n gyfyngedig gan ddisgwyliadau pobl eraill ac sy’n methu gweld y potensial sydd ganddyn nhw.
Rydw i’n noddwr dros DDHUK, sy’n gweithio i gefnogi rhieni plant gyda dysplasia yn y glun yn ogystal ag ymgyrchu dros fwy o ymwybyddiaeth o’r cyflwr.
Sut ydych chi’n treulio’ch amser pan dydych chi ddim yn gweithio?
Rydw i’n nofio o hyd ac yn ymarfer corff er pleser (mae’n fy nghadw’n gall), hefyd rydw i’n mwynhau bod gyda’m ffrindiau a’r teulu, darganfod Penrhyn Gŵyr, pobi, chwarae cerddoriaeth a darlunio. Sut bynnag, rydw i’n disgwyl fy mhlentyn cyntaf eleni felly yn gwybod bod y ffordd rydw i’n treulio fy amser i ffwrdd o’r gwaith ar fin newid!