BEng Peirianneg Electronig a Thrydanol. Dosbarth 2019.
Peiriannydd trydanol yn Arup.
Eich Gyrfa
Rwy'n beiriannydd trydanol yn y gwasanaethau adeiladu. Rwy'n gweithio'n agos gyda Pheirianwyr Strwythurol, Sifil, Mecanyddol ac Iechyd y Cyhoedd i gyflwyno dyluniadau cynaliadwy cyffredinol. Mae fy rôl o ddydd i ddydd yn cynnwys cynnal asesiadau o'r galw am bŵer, ymgynghori ar gyfleustodau, cyflenwad trydan a dylunio gwydnwch systemau. Rwyf hefyd yn frwd am asesiadau carbon gydol oes gwasanaethau mecanyddol, trydanol a phlymio gan ganolbwyntio ar hyn o bryd ar garbon ymgorfforedig.
Crynodeb o'ch profiad ym Mhrifysgol Abertawe
Roedd fy mhrofiad ym Mhrifysgol Abertawe'n llawn cyfleoedd fel meithrin ffrindiau gydol oes ledled y byd, digwyddiadau gyrfa a wnaeth fy nghyflwyno i'r cwmni rwy'n gweithio gydag ef ar hyn o bryd, gweithio fel myfyriwr llysgennad ar gyfer yr adran Peirianneg Electronig a Thrydanol gan gynnwys arddangos microreolyddion a wnaed gan y myfyrwyr, yr Heriau Mawr Byd-eang a cherdded ar y traeth.
Beth yw eich hoff 3 pheth am Abertawe (y Brifysgol/y ddinas/yr ardal)?
Y peth cyntaf oedd bod Abertawe'n teimlo fel cartref. Diolch i fy nghymuned o ffrindiau a theulu eglwys hyfryd a wnaeth gyfrannu'n helaeth at hyn. Heb anghofio'r ymdeimlad o groeso nid yn unig gan y ddinas ond dieithriaid rydych yn cwrdd â nhw ar y strydoedd hefyd.
Mae Abertawe'n hardd iawn; Rwyf wedi ymweld â Phier y Mwmbwls sawl gwaith am hufen iâ a'r olygfa'n bennaf yn ystod yr haf, ond rwy'n cofio mynd yn ystod y tymhorau eraill hefyd heb anghofio'r golygfeydd niferus a geir o fannau gwahanol.
Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Fel myfyriwr rhyngwladol, roedd cwrdd ag un o gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe a chael sgwrs wedi gwneud byd o wahaniaeth gan nad oeddwn yn gallu mynd i unrhyw un o'r diwrnodau agored.
Methais i o drwch blewyn ennill y cymwysterau i fynd yn syth i flwyddyn gyntaf y cwrs peirianneg oherwydd dyna roeddwn am ei wneud, er i mi gymhwyso am flwyddyn gyntaf fy nghyrsiau eraill. Cefais yr opsiwn gan Abertawe i ddechrau yn Y Coleg, sef ICWS bryd hynny, am gwrs sylfaen a oedd yn rhan o'r cwrs peirianneg roeddwn i am ei wneud felly roedd dim eisiau meddwl ymhellach!
Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl mynd i'r Brifysgol?
Byddwn i bendant yn ei hargymell am y rhesymau a nodais uchod ond hefyd cefais ddarlithwyr anhygoel a oedd yn hyddysg yn eu meysydd ymchwil ond hefyd roeddent yn cymryd yr amser i fuddsoddi yn eu myfyrwyr law yn llaw â'u gwaith ymchwil.
Dywedodd rhywun unwaith y bydd Prifysgol Abertawe'n cymryd myfyriwr cymedrol a'i droi'n fyfyriwr graddedig o'r radd flaenaf. Wrth gwrs mae hyn yn broses ddwy ffordd, gallwch ond gael allan yr hyn rydych yn ei fuddsoddi, ond roeddwn yn dal i feddwl bod hyn yn wych gan i mi weld hyn ar waith sawl tro.
Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?
Rhoddodd i mi sylfaen dda ar gyfer fy ngyrfa.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â chi?
Yn gyntaf, ewch amdani! Byddwn yn argymell cyflwyno cais am leoliadau dros yr haf a fydd yn rhoi ymdeimlad o'r gwaith i chi a llwybr i brentisiaeth. Mae'n eithaf deinamig a does dim un prosiect yr un peth os ydych yn hoffi her. Mae cyfleoedd hefyd i wirfoddoli eich sgiliau gydag elusennau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cymunedol, os yw hynny'n rhywbeth rydych yn hoffi ei wneud hefyd.