BSc Peirianneg Sifil. Dosbarth 1953.
Un hanner o stori garu wych yn Abertawe.
Mae cwpl a gwympodd mewn cariad ym Mhrifysgol Abertawe yn y 1950au cynnar yn dweud y bydd gan y sefydliad le arbennig yn eu calonnau bob amser. Cyn dathliadau canmlwyddiant y Brifysgol, gwnaeth John a Diana Lomax, sy’n byw yn Abertawe bellach, ddychwelyd i gampws Parc Singleton er mwyn rhannu atgofion o’u hamser yno.
Fel cwpl a gwrddodd ym Mhrifysgol Abertawe, rwyf yn dychmygu bod gan y ddau ohonoch lawer o atgofion melys yma. Oes llawer ohonynt sy’n amlwg ichi?
Gan adlewyrchu ar ein hamser yng Ngholeg y Brifysgol (fel y gelwid ef ar y pryd) yn ystod y 50au. Yn amlwg, y prif atgof melys sydd gan y ddau ohonom oedd cwrdd, dod yn gwpl, ac yn ei dro, briodi yn Abertawe. Roedd Diana eisoes yn byw yn Abertawe - roeddwn i mewn llety myfyrwyr yn y Mwmbwls. Mwynhaodd y ddau ohonom ein hamser gyda’n gilydd yn yr ardal yn gyfan gwbl. Graddiais ym 1953, yna arhosais yma i ymgymryd â gwaith ymchwil yna gwnes i adael ym 1956 er mwyn dechrau fy swydd newydd yng Nghaint, a phriodon ni ym 1957. Fel peiriannydd sifil roedd gofyn imi symud o gwmpas cryn dipyn ac felly roeddem yn byw mewn sawl ardal wahanol yn y DU cyn dychwelyd i fyw yn Abertawe ym 1988.
Rwyf yn deall eich bod bob amser wed bod yn aelodau brwd o’r Brifysgol, gan gymryd rhan mewn chwaraeon a chymdeithasau pan roeddech yn astudio yma. Mae’n rhaid eich bod wedi cwrdd â llawer o ffrindiau agos, ydych chi’n dal i fod mewn cysylltiad â nhw?
Oherwydd symud o gwmpas, collon ni gysylltiad â llawer o’r ffrindiau yr oeddem wedi cwrdd â nhw yn Abertawe ond rydym wedi cadw mewn cysylltiad â:
- Dilwyn Griffiths – sydd erbyn hyn wedi ymddeol fel Athro mewn Botaneg ac sy’n byw yn Melbourne a James Cook - Prifysgol Townsville, Awstralia. Rydym wedi cwrdd â’r ddau ohonynt yn Awstralia ac yn ôl yn y DU sawl gwaith.
- Ar wahân i weithio ar gyfer fy ngradd, fy uchafbwyntiau gorau yn ystod fy amser yma oedd cael fy ethol yn Fyfyriwr Gadeirydd y Gymdeithas Beirianneg a chael fy mhenodi yn Gapten tîm sboncen y coleg. Roeddwn yn gapten ar Dîm Sboncen cyfunedig Prifysgol Cymru (Abertawe a Chaerdydd) mewn cystadleuaeth yn erbyn Prifysgolion cyfunedig y De - a gwnaethom eu curo! Yn ogystal â hyn, roeddwn yn Gadeirydd Bwrdd Athletaidd Canolog y Coleg
- Mae atgofion Diana o’i hamser yn y Coleg, yn gyntaf yn yr Abaty ac wedyn yn adeilad newydd y Gwyddorau Naturiol, yn cynnwys swydd ddymunol iawn - gwaith diddorol, dim pwysau go iawn, ymdrin â phobl neis iawn, myfyrwyr a staff.
- Roedd un penwythnos bythgofiadwy gyda ffrind o’r Adran Beirianneg, aeth hi i Neuadd Albert yn Llundain er mwyn mynychu cynhadledd Cynghrair y Menywod dros Iechyd a Harddwch (roedd y ddwy yn aelodau). Gwnaethon nhw glirio eu swyddfeydd yn eu Hadrannau (roeddent yn gweithio ar fore Sadwrn yn y dyddiau hynny!) ac aethon nhw. Ddydd Llun cawsant eu ceryddu’n ddifrifol gan Brif Glerc y Gofrestrfa – nid oeddent yn gwybod eu bod o dan reolaeth y Gofrestrfa.
Yn ddiweddar gwnaethoch blannu derwen yn y Brifysgol fel rhan o’n prosiect i blannu coed derw ar gyfer y canmlwyddiant. Mae’n rhaid ei bod yn teimlo’n arbennig i blannu bywyd newydd lle gwnaethoch gwrdd dros 60 mlynedd yn ôl, er mwyn bod o fudd i genedlaethau’r dyfodol?
Roedd yn bleser gennym gymryd rhan gan blannu un o’r 100 coeden dderw ar Gampws Singleton. Gan ei fod yn agos at y fynedfa ar Heol y Mwmbwls, byddwn yn gallu cadw llygad arni’n tyfu.
Pe tasai’r ddau ohonoch yn gallu ail-fyw un profiad neu un diwrnod yma, beth fyddai?
Byddai’n wych i ail-fyw diwrnod fy ngraddio ym 1953 – mae’n gwbl niwlog nawr! Roedd Diana yn stiward seddau ar adeg fy ngraddio ond nid oeddem yn adnabod ein gilydd ar y pryd. Yn y dyddiau hynny nid oedd y campws wedi datblygu llawer, nid oedd ceir ac rwy’n credu bod pawb yn gwybod enwau ei gilydd. Roedd yn amser cyffrous iawn i fod yma ac mae gan y ddau ohonom atgofion hapus iawn o’n hamser yn Abertawe.