BSc Seicoleg. Blwyddyn Graddio 1981. Entrepreneur. Arweinydd Busnes Capita.
Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, ymunodd Paul â chwmni cyfrifwyr Coopers & Lybrand. Ar ôl cymhwyso fel cyfrifydd, ymunodd â'r cwmni ecwiti preifat 3i fel rheolwr buddsoddiadau.
Aeth Paul ymlaen i ymuno â Capita ym 1987 a gweithio’i ffordd drwy’r cwmni i fod yn Brif Weithredwr ym 1999. Erbyn i Paul adael Capita yn 2014 roedd y cwmni’n cyflogi 62,000 o bobl a’i werth ar y farchnad oedd £7,5 biliwn.