LLB y Gyfraith. Blwyddyn Graddio 2002. Llongwr. Cyfreithiwr.
Beth wnaeth ichi ddewis Prifysgol Abertawe ar gyfer eich astudiaethau?
Pan oeddwn i’n edrych ar brifysgolion, roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n dewis prifysgol o fri, ond roedd yn hanfodol fy mod yn teimlo’n ddiogel ac yn dwlu ar y lle y byddwn i’n treulio 3 blynedd yn astudio ynddo.
Ces i fy magu yng Nghaerdydd ac roedd fy rhieni yn arfer mynd â fi a’m brawd am deithiau undyddi Abertawe pan oeddem ni’n blant bach er mwyn ymweld â’r Marina, a’r pwll nofio (roedd ganddo beiriant tonnau llanw a sleid hydro a oedd yn atyniadau mawr yn yr 80au!). Wedyn treuliais i lawer o amser yn y Mwmbwls yn cystadlu mewn digwyddiadau hwylio ac roeddwn i’n dwlu ar y ffordd o fyw awyr agored yr oedd Abertawe’n ei chynnig.
Mae gan Brifysgol Abertawe enw gwych a phan ymwelais i yn ystod diwrnod agored, ches i ddim fy siomi! Roeddwn i wrth fy modd â’r campws, gyda’r cyfleusterau o ran y gyfraith, y llyfrgell, y cyfleusterau chwaraeon ac roedd y traeth mor agos.
Abertawe yw fy hoff le yn y byd o hyd!
"Mae gennyf gynifer o atgofion hyfryd o astudio ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n un o’r penderfyniadau gorau rydw i erioed wedi eu gwneud."
Ydych chi’n cofio cyngor, profiad neu fodelau rôl o’ch amser ym Mhrifysgol Abertawe sydd wedi aros gyda chi drwy gydol eich gyrfa?
Rydw i’n meddwl bod modelau rôl ymhobman ym Mhrifysgol Abertawe.
Stan Addicott - roedd e’n anhygoel. Roedd ganddo gyfrifoldeb am yr ysgolheigion chwaraeon ac roedd e’n berson mor gefnogol, cadarnhaol a doeth. Doeddwn i ddim eisiau ei siomi byth, ond ar yr un pryd, doeddwn i byth dan bwysau, gan mai’r unig beth roedd e’n ei ddymuno oedd ichi wneud y gorau y gallech.
Mae Ruth Costigan y tu hwnt i fod yn anhygoel. Mae hi mor frwdfrydig ac yn wybodus ac mae ganddi ymagwedd at addysgu sy’n hamddenol ac yn anffurfiol yn naturiol. Mae hi’n wirioneddol hoffus ac yn gymaint o ased.
Mae gennyf gynifer o atgofion hyfryd o astudio ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n un o’r penderfyniadau gorau rydw i erioed wedi eu gwneud. Un gymuned gefnogol hapus fawr yw Abertawe, a gwnaeth fy mharatoi ar gyfer gweddill fy mywyd. Cwrddais i â ffrindiau am oes a chreais i atgofion a fydd yn para am oes!
Allwch chi ddweud wrthym ychydig am eich cyflawniadau chwaraeon?
Rydw i’n ffodus i gael fy newis i gynrychioli Cymru a Phrydain Fawr mewn hwylio ers dros 15 mlynedd.
Rydw i wedi ennill llawer o gystadlaethau hwylio cenedlaethol yng Nghymru, wedi ennill Cwpan y Gwledydd, ac wedi bod yn gapten Tîm Hwylio Cenedlaethol Cymru a hyd yn oed Tîm Hwylio Prifysgol Abertawe!
Ar ôl hwylio’n gystadleuol am lawer o flynyddoedd, mae cryn dipyn o gyflawniadau rydw i’n falch ohonynt, gan gynnwys:
• Dod yn y 9 uchaf mewn tair Cystadleuaeth y Byd (Merch 1af); • Gorffen yn 2il ym Mhencampwriaethau Rasio Gornest Prydain Fawr; • Gorffen yn 2il ym Mhencampwriaethau Llong Gêl Prydain Fawr i Fenywod; • Cael fy newis ar gyfer Tîm Prydain Fawr yng Nghwpan y Comodoriaid; • Ennill Wythnos Cowes; • Cynrychioli Prifysgolion Cymru yn nau Gwpan Hwylio i Fyfyrwyr y Byd (y 10 Uchaf).
Un cyflawniad a phrofiad na fydda i’n ei anghofio byth yw pan gymerais i ran mewn ras hwylio o gwmpas y byd, pan ddaethom ni’n drydydd ar y cyfan!
Ydych chi bob amser wedi bod yn frwdfrydig am y gyfraith? O ble daeth eich diddordeb?
Rydw i bob amser wedi bob yn frwdfrydig dros ben am garedigrwydd, bod yn deg a helpu pobl eraill. Gwnaeth fy rhieni fy magu i weithio’n galed, felly mae’n debygol bod fy rhinweddau naturiol wedi gwneud fy nhaith i fod yn gyfreithiwr yn un eithaf naturiol.
Dywedwch wrthym dipyn bach am eich gyrfa
Rydw i wedi bod yn gymwysedig fel cyfreithiwr ers 15 mlynedd bellach. Rydw i wedi gweithio i gwmnïau cyfreithwyr rhyngwladol a chenedlaethol gan ymdrin â thrafodion eiddo masnachol cymhleth o werth uchel.
Roeddwn i ar y rhestr fer ar gyfer Cyfreithiwr Ifanc y Flwyddyn (Cymru) 2004/5 a hefyd rydw i wedi cael fy argymell yn The Legal 500 am y ddwy flynedd ddiwethaf, oherwydd safon y gwaith rydw wedi bod yn ymgymryd ag ef.
Hefyd roeddwn i’n gapten Tîm Hwylio Cymdeithas y Gyfraith yn 2008.
"Os bydda i’n ceisio fy ngorau glas ac yn rhoi nôl, bydda i’n hapus."
Dywedwch wrthym am eich llwyddiannau mwyaf hyd yn hyn
Mae hynny’n anodd ei ateb! Roedd y ras hwylio o gwmpas y byd yn anhygoel dros ben, ond pan fydda i’n cerdded heibio tlysau hwylio yn y tŷ, byddan nhw i gyd yn gwneud imi wenu hefyd. Os yw’n bencampwriaeth y byd, tlws cenedlaethol neu’r tlws am ennill y gyfres hwylio yn fy nghlwb hwylio lleol (ie, rwyf yn dal i rasio), mae gyda nhw i gyd atgofion mor hyfryd imi ac rydw i’n trysori pob un.
Oherwydd fy mod i mor frwdfrydig am roi rhywbeth nôl, un o’m llwyddiannau mwyaf yn fy marn i fyddai’r saith mlynedd a dreuliais i fel rhan o’r criw craidd ar gyfer menter hwylio o’r enw Toe in the Water. Roedd y polisi dethol yn galed, a gohiriais i fy ngyrfa hwylio fy hun am y saith mlynedd a roddais i’r fenter, ond roedd hi’n anrhydedd hyfforddi a chystadlu gyda milwyr anafedig - dynion a menywod - mewn digwyddiadau hwylio cystadleuol.
Wnaethom ni ddim addasu’r llongau mewn unrhyw ffordd, a gwnaeth y milwyr anafedig gystadlu yn erbyn timau o forwyr nad oedden nhw’n anabl.
Ces i’r pleser o gwrdd â phobl anhygoel ac mae rhai o’r milwyr anafedig wedi mynd ymlaen i fod yn forwyr Paralympaidd. Roedd gallu rhoi rhywbeth nôl i’r dynion a’r menywod sydd wedi rhoi cymaint dros ein gwlad, trwy rannu â nhw fy nghariad at hwylio cystadleuol, yn fraint fawr.
Os bydda i’n ceisio fy ngorau glas ac yn rhoi nôl, bydda i’n hapus.
P’un yw agwedd fwyaf boddhaus eich rôl
Helpu pobl i wireddu eu nodau masnachol, a dod o hyd i atebion i faterion masnachol a chyfreithiol cymhleth.
Beth sydd nesaf ichi?
Llwyddais i yn fy arholiad i fod yn feirniad hwylio gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) ar ddechrau’r flwyddyn, felly rydw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i gystadlaethau hwylio rhyngwladol fel beirniad hwylio.
Am y tair blynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn Llysgennad Rhanbarthol De Cymru i brosiect Only Girls Afloat gan RYA Cymru Wales. Trwy’r prosiect, rydym ni’n gobeithio ymgysylltu â mwy o fenywod a merched, a’u hannog i ddechrau hwylio. Rydw i wrth fy modd yn rhannu’r cariad sydd gen i at hwylio â phobl eraill a’u helpu i gael mynediad at gamp rydw i’n gobeithio y byddan nhw’n ei mwynhau ac yn parhau â hi. Mae gen i lawer mwy i’w wneud ar gyfer y prosiect hwn ac rydw i’n edrych ymlaen at adeiladu ar y cynnydd rydym ni wedi’i wneud hyd yn hyn.
Hefyd rydw i’n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwr a Phwyllgor Perfformiad RYA Cymru Wales, felly mae helpu’r gymdeithas i addasu i sefyllfa COVID, a hybu’r genhedlaeth nesaf o forwyr o safon, ar frig fy agenda.
Ar lefel fwy personol, rydw i’n dal i rasio’n gystadleuol ac rydw i’n dwlu arno. Rydw i’n bwriadu gwneud rhagor o gystadlaethau hwylio, a hwylio oddi ar yr arfordir, pan fydd cyfyngiadau COVID yn lleihau.
Mae gen i iot fach felly bydda i’n treulio fy nosweithiau haf yn ei hwylio ar fy mhen fy hun (gyda’m ci!). Alla i ddim dychmygu diwrnod pan fydda i ddim yn hwylio.
Pwy yw eich ysbrydoliaeth?
Mae Tracy Edwards, a oedd yn gapten Maiden yn Ras Hwylio Whitbread o Gwmpas y Byd 1989/90, yn un ohonynt yn bendant. Cyflawnodd Maiden gamp hanesyddol, gan mai nhw oedd y criw cyntaf o fenywod yn unig i gylch-hwylio’r ddaear. Daethant yn ail yn eu dosbarth yn y pen draw, ac erbyn y diwedd, nhw oedd y llong Brydeinig orau yn y ras ers 1977. Fel plentyn yn gwylio’r gamp anhygoel hon, gwnaeth hynny argraff fawr arnaf, ond yn ddiweddar cafodd ffilm am y ras ei rhyddhau ac mae ei gweld hi eto trwy lygaid menyw wedi ychwanegu cymaint mwy o ddyfnder at y stori. Yn ddiweddar mae Tracy wedi sefydlu Prosiect Maiden, sy’n gweithio gyda phrosiectau cymunedol o bedwar ban byd i rymuso a galluogi merched i gael addysg. Mae ei chariad at roi nôl, a rhannu hud tîm chwedlonol y Maiden mewn ffordd mor gadarnhaol, yn parhau i’m hysbrydoli.
Hefyd mae Michelle Obama yn fy ysbrydoli, oherwydd ei hymagwedd gadarnhaol a chraff at lawer o’r materion sy’n wynebu ein byd ar hyn o bryd.
Wedyn mae fy nheulu a’m ffrindiau. Maen nhw i gyd mor gefnogol ac yn llawn ysbrydoliaeth. Gwyn fy myd bod gen i gynifer o bobl wych yn fy mywyd.