Rheoli Busnes gydag Entrepreneuriaeth, Dosbarth o 2021.
Entrepreneur, uwchgylchwr, prynwr ffasiwn.
Rydych chi’n cwblhau eich gradd israddedig mewn Astudiaethau Rheoli. Pam dewisoch chi ddod i Abertawe?
Dwi o dras Cymreig yn mynd yn ôl cenedlaethau, felly roeddwn i’n awyddus i astudio yng Nghymru am fy mod i’n falch o’m cenedligrwydd, sy’n help mawr wrth gyfathrebu â chwsmeriaid a chyflenwyr lleol. Abertawe oedd fy newis cyntaf wrth feddwl am Brifysgol. I ddechrau ymwelais i â Champws y Bae’r Brifysgol ar ddiwrnod agored a oedd wedi’i drefnu’n dda ac roedd cynllun y campws, ei gyfleusterau a’i leoliad yn apelio’n fawr ata i. Hefyd, roedd y cwrs Rheoli Busnes yn cynnig cyfleoedd ym maes entrepreneuriaethnad oeddent ar gael mewn lleoedd eraill. Mae Abertawe’n ddinas â llawer o gymeriad.
Oeddech chi bob amser eisiau bod yn entrepreneur? A beth wnaeth eich ysbrydoli i gychwyn y busnes hwn?
Roeddwn i bob amser eisiau bod yn hunan-gyflogedig er mwyn bod â rhyddid i arloesi heb gyfyngiadau. Hefyd, dwi’n gallu darparu amgylchedd gwaith cyfeillgar, anffurfiol ac effeithiol nad ydw i wedi ei brofi yn y gorffennol. Yn y chweched dosbarth, cychwynnais i fusnes bach yn gweithgynhyrchu ac yn gwerthu clociau wedi’u gwneud o hen ddisgiau finyl, ac enillais i ‘Wobr Entrepreneur y Flwyddyn’ gan Ysgol Uwchradd Caerdydd. Yn fuan, sylweddolais i fod gen i archwaeth a gallu am fusnes ac entrepreneuriaeth. Ces i fy ysbrydoli i agor RAVS pan sylweddolais i fod galw uchel am y math hwn o ddillad mewn dinas â phoblogaeth mor uchel o fyfyrwyr, ac roedd hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’m hangen i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd. Byddai’r agwedd hon ar gynaliadwyedd yn cael ei gwireddu drwy annog pobl i ailddefnyddio eitemau a chael gwared ar yr embaras sy’n gysylltiedig â ‘siopa ail law’ drwy ei farchnata fel rhywbeth modern, cŵl ac unigol, rhywbeth rydym yn parhau i’w gyflawni yn fy marn i.
Fyddwn i’n iawn yn rhagdybio bod galw arbennig o fawr am siop fel RAVS yn Abertawe, lle nad oedd llawer o siopau’n gwerthu dillad retro o’r blaen?
Mae’r sîn dillad retro yng Nghaerdydd wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr i mi, drwy arsylwi ar arddulliau, lleoliad a’r sylfaen cwsmeriaid. Ces i fy sbarduno gan siopau tebyg yng Nghaerdydd i leoli RAVS mewn arcêd siopa, er mwyn meithrin yr ymdeimlad o hiraethu am oes a fu ac annog y naws ‘trysor cudd’. Amcan arall oedd gwella poblogrwydd ac amgylchedd arcedau Abertawe i’r un safon â rhai Caerdydd. Mae Depop yn wefan adnabyddus am brynu a gwerthu dillad retro; yn aml dwi’n hoffi disgrifio RAVS fel Depop y byd go iawn, heb y gost ariannol ac amgylcheddol ychwanegol o ffioedd comisiwn a chludiant. Mae hyn yn golygu y gallwn drosglwyddo’r arbedion hyn i’r cwsmer ar ffurf prisiau is a thecach. Dwi’n teimlo bod y gymuned o fyfyrwyr a phobl leol sydd wedi tyfu o gwmpas RAVS yn y flwyddyn ddiwethaf wedi profi’r galw sylfaenol am y math hwn o ddillad ac mae’r siop wedi dod yn lleoliad siopa rheolaidd i lawer. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth prisio a phrynu stoc gan ein cwsmeriaid – mae hyn yn caniatáu i bobl gyfnewid hen ddillad am gredyd yn y siop neu arian parod, rhywbeth sydd wedi bod yn ddefnyddiol i lawer mewn cyfnod o gyni. Mae hefyd yn cyfrannu at leihau gwastraff dillad.
Ydych chi’n gobeithio tyfu eich busnes ac agor siopau mewn dinasoedd eraill?
Er bod pandemig Covid-19 wedi rhoi stop ar gynlluniau i ehangu’r busnes ar hyn o bryd, mae hefyd wedi rhoi amser i mi lunio nifer o gynlluniau creadigol am y flwyddyn i ddod a dwi’n edrych ymlaen at y dydd pan fydd modd iddyn nhw gael eu gwireddu. Mae Abertawe’n unigryw yn y rhagolygon mae’n eu cynnig: rhwyddineb ymsefydlu yn y farchnad a rhenti isel. Fy ngobaith yw cadw RAVS ar agor ac yn ffynnu cyhyd â phosib, gan bob amser cynnwys y Brifysgol a chyflogi myfyrwyr. Fodd bynnag, ar ôl graddio, dwi’n gobeithio cychwyn menter newydd yn ne Cymru, a fydd yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gynaliadwyedd ac ailgylchu, ar raddfa ddigon mawr i wneud gwahaniaeth arwyddocaol i ddiwydiannau penodol megis adeiladu. Dwi’n gweld RAVS fel cyfle i gael profiad o arweinyddiaeth, cysylltiadau â chwsmeriaid/cyflenwyr ac i gronni cyfalaf, sgiliau hanfodol a fydd yn fy helpu ar fy llwybr i lwyddiant yn y dyfodol.