Elin Rhys. Sylfaenwr y Cwmni Telesgop.
BSc Biocemeg. Dosbarth 1978.
Nôl ym mis Chwefror fe wnaeth Pablo Josiah, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, fy ngwahodd, fel aelod o Gyngor y Brifysgol, i ddigwyddiad dathlu Gala Ethno Abertawe. A dyna beth oedd dathliad o wahanol ddiwylliannau o bob cwr o'r byd yn dod at ei gilydd i fwynhau. Pawb mewn gwisgoedd lliwgar - a minnau yn fy ffrog blaen arferol! Ond pawb yn dathlu ein gwahaniaethau diwylliannol.
Fe aeth hyn â fi nol i fy nyddiau fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn y saithdegau a f'atgoffa am y rhesymau pam y mae'r brifysgol hon yn lle mor arbennig. Rwyn cofio fel ddoe bod yn rhan o drefnu tîm Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Abertawe i gystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Tua canol y saithdegau oedd hi. Bryd hynny, roedd y Cymry Cymraeg yn heidio i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor - dyna'r lle oedd y Cymry ifanc diwyllianol yn mynd!! Felly roedd y gym-gym yn Abertawe wastad yn dod yn olaf yn y cystadlu, ac yn teimlo allan ohonni braidd. Llawer mwy Cymreig na gweddill myfyrwyr Abertawe, ond ddim yn ddigon Cymreig i ffitio fewn gyda criw Aber a Bangor. Felly dyma drio neud rhywbeth am hyn.
Roedd gen i ffrind yn Neuadd Gilbertson, neuadd y bechgyn gerllaw gerddi Clyne, a minnau yn Neuadd Martin, neuadd y merched, drws nesa. Roedd Rehman Rashid yn ganwr heb ei ail - ac yn canu'r gitâr yn ei arddull unigryw ei hun. Un o Kuala Lumpur, Malaysia oedd e. Awgrymais efallai y byddai ei gynnwys ef yn y 'line-up' yn syniad! Cytunodd gymeryd rhan ac fe gododd y tô! Ac roedd yna barti canu o Chile wedi cynnig ein helpu - yn gwisgo eu gwisg draddodiadol a chanu mewn harmoni.
Ar nos Sadwrn y Steddfod - roedd hi'n gystadleuaeth y Noson Lawen. Pob prifysgol yn darparu chwarter awr o adloniant. Cyrhaeddodd tîm Prifysgol Abertawe y llwyfan gyda'r anfarwol Ieuan Tomos yn arwain. Roedd ambell eitem ganddon ni'r Cymry, grŵp pop, a dawnswyr gwerin, ond yno i helpu yr oedd Chile a Malaysia!! Am y tro cynta erioed , enillodd Prifysgol Abertawe y gystadleuaeth Noson Lawen!! Doedd dim diwedd ar y dathlu.
Newyddiadurwr oedd Rehman Rashid, a ddaeth yn awdur enwog yn ei wlad. Ond yn drist iawn, fe fu farw yn 62 mlwydd oed yn 2017. Colled enfawr.
Y wers a ddysgais yn yr Eisteddfod Ryng Gol y flwyddyn honno oedd bod cyfuno doniau, a chydweithio ar draws gwledydd sydd â diwylliant hollol wahanol, yn werthfawr, ac yn gallu creu gwyrthiau. Daeth hyn i gyd nôl i mi ar noson Gala Ethno Abertawe. Mor braf gwybod bod y brifysgol yn dal i ddathlu amrywiaeth ac yn cefnogi diwylliannau gwahanol.
Dwi wedi bod yn rhedeg cwmni teledu a radio yma yng Nghymru ers dros 30 mlynedd bellach. Mae'r swyddfa yn Stiwdio's y Bae , gyferbyn y campws newydd.
Rydyn ni'n gwmni sydd yn ceisio arddangos celfyddyd Cymru gymaint a fedrwn. Er anodd iawn yw cael rhaglenni ar y rhwydwaith Brydeinig i ddangos diwylliant Cymru. Ond mae darlledu o'r Eisteddfod Ffermwyr Ifanc, a'r Wyl Gerdd Dant yn bwysig i ni. Mae ein prif gyfres Ffermio yn adlewyrchu bywyd cefn gwlad, ac amaethu. Ac mae Cefn Gwlad Cymru yn allweddol i ffyniant diwylliant ein cenedl.
Ond gwyddoniaeth ydy fy mhrif ddiddordeb i. Ac mae yna gelfyddyd mewn gwyddoniaeth hefyd.
My mhrosiect diweddaraf yw cynhyrchu ffilm am CERN - yr arbrawf ffiseg mwyaf yn y byd, sydd yn dathlu penblwydd yn 70 eleni. Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiad agos iawn â CERN reit o'r dechrau. Eifionydd Jones o'r adran ffiseg oedd y cyntaf i fynd yno - a gweithio ar brosiect a enillodd wobr Nobel. Gwaetha'r modd bu farw yn ifanc. Cyn bo hir wedyn fe aeth Lyn Evans allan yno - a fe oedd y gwyddonydd a wnaeth gynllunio y Large Hadron Collider - yr LHC. Yn fwy diweddar aeth Rhodri Jones yno - a fe, erbyn hyn, yw Pennaeth y Pelydrau. Mae Lyn a Rhodri yn Gymrodorion Prifysgol Abertawe. Ond yr hyn rwyn ei garu am CERN yw nid y gwyddoniaeth disglaer sydd yn digwydd yno - er bod hwnnw yn ardderchog - ond y ffordd y mae gwyddonwyr o wledydd ar draws y byd, o bob diwylliant dan haul, yn cydweithio yn hapus ac yn rhannu eu canlyniadau.
Bum yno yn ffilmio yn ddiweddar, ac wrth y ford fwyd yr oedd Muhammad o Hebron ym Mhalesteina, Ynyr o Sir Gaernarfon, Monica o'r Unol Dalaethau, Livia o'r Eidal, Smaragda o Groeg. Pawb yn siarad yr un iaith - gwyddoniaeth, ond pob un yn parchu diwylliant y lleill. Mae cymaint gan wleidyddion ein byd i'w ddysgu gan staff a strwythur CERN.
70 mlynedd yn ol - y rheswm pam y daeth CERN i fodolaeth oedd bod gwyddonwyr eisiau gweithio gyda'i gilydd yn enw heddwch. Wedi cyflafan yr ail ryfel byd, a'r bomiau ddisgynodd ar Siapan, roedd gwyddonwyr eisiau creu arbrawf enfawr lle gallai gwledydd Ewrop gyd weithio a rhannu'r canlyniadau. A bellach mae'n agored i wledydd tu fas i Ewrop.
Nol yn nyddiau yr Eisteddfod Ryng Gol - fe ddysgais na fydden fyth yn ennill ar ein pennau ein hunain. Ond drwy ddod â diwylliannau eraill, gwahanol, at ei gilydd - roedd modd symud mynyddoedd. Mae'r un peth yn wir yn CERN.
Dwi'n trio bod mor eangfrydig ag y medraf - tra hefyd yn caru diwylliant Cymru , ei cherddoriaeth, ei barddoniaeth, a'i gwyddonwyr!
Er hyn rwyf yn poeni y byddwn fel cenedl yn colli rhai o'r pethau sydd yn greiddiol i'n Cymreictod. Mae angen i ni fynd allan i'r byd i ddangos ein talentau ac i fynnu ein bod yn cael chwarae teg ar deledu a radio Seisnig, ac ar draws y byd. Ein diwylliant sydd yn ein cynnal.
Am gyfnod byr yn yr wythdegau, cyn mynd i fyd darlledu, bum yn gweithio yn y Bwrdd Dwr - a phan adewais, fe wnaeth fy mhenaeth roi anrheg i fi. Dim ond llun plaen gyda geiriau arno -
Elin -
"Os wyt ti'n gwybod o ble rwyt ti'n dod - does dim diwedd i ble alli di fynd."
Geiriau doeth rwy'n eu cadw yn agos at fy nghalon hyd heddiw.