COPTER: ASTUDIAETH COFRESTRU MYNEDIAD EHANGEDIG THERAPI PLASMA YMADFER COVID-19
Dyfarnwyd grant gwerth £2,000 gan gronfa ymateb brys i'r coronafeirws a ariennir gan gyn-fyfyrwyr i'r Athro Greg Fegan i'w alluogi i wneud gwaith paratoadol ar astudiaeth o effeithiau posib defnyddio 'plasma ymadferol' i drin cleifion â Covid-19 difrifol. Plasma gwaed yw hwn a roddwyd gan gleifion sydd wedi gwella yn sgil cadarnhad bod haint SARS-CoV 2 ganddynt, a allai gynnwys gwrthgyrff amddiffynnol.
Mae'r gwaith yn golygu addasu’r system casglu data a ddefnyddiwyd mewn astudiaeth ar raddfa fawr yn yr UD gan glinigau MAYO i gasglu data ar gyfer cofrestrfa yng Nghymru a fydd yn helpu gwyddonwyr i ddeall yn well a allai therapi plasma ymadferol wella canlyniadau ar gyfer cleifion ac os felly, sut. Gwneir y gwaith hwn mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwaed Cymru ac imiwnolegwyr yn Ysbyty Prifysgol Cymru sy'n arwain y gwaith.