Is-bwyllgor Uniondeb Ymchwil, Moeseg a Llywodraethu Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Ynglŷn ag Is-bwyllgor Uniondeb Ymchwil, Moeseg a Llywodraethu'r Gyfadran (FRIEGS)

Diben Is-bwyllgor Uniondeb Ymchwil, Moeseg a Llywodraethu'r Gyfadran (FRIEGS) yw hysbysu, dylanwadu a hyrwyddo ledled y Gyfadran y gwaith o oruchwylio a chydlynu polisïau a phrosesau sy'n angenrheidiol ar gyfer cynnal ymchwil ac arloesi mewn modd cyfrifol, gan ganolbwyntio ar uniondeb ymchwil a chymorth i ymchwilwyr i hyrwyddo ymchwil ddibynadwy, yn unol â darpariaethau'r Brifysgol ar gyfer Uniondeb Ymchwil a Moeseg Ymchwil. Mae'r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Wasanaethau Proffesiynol y Gyfadran ac o bob un o'r pedair Ysgol yn y Gyfadran.

Yn y Gyfadran, mae FRIEGS yn atebol i Bwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Effaith y Gyfadran (FRIIC).

Yn y Brifysgol, mae FRIEGS yn atebol i Bwyllgor Uniondeb Ymchwil, Moeseg a Llywodraethu'r Brifysgol.

Ceisiadau Moeseg Ymchwil

Rhan o gylch gwaith FRIEGS yw galluogi sgrinio moeseg ar gyfer holl weithgareddau ymchwil yn y Gyfadran. Ymhlith pethau eraill, mae FRIEGS yn goruchwylio'r broses cyflwyno ac asesu ceisiadau Moeseg Ymchwil, sy'n defnyddio'r ap INFONETICA, y gellir ei gyrchu drwy MyApps. Sylwer bod gwybodaeth ac arweiniad cynhwysfawr ar sut i gwblhau cais moeseg yn cael eu darparu yn y system Ceisiadau Moeseg Ymchwil (yr ap INFONETICA) o dan 'Help' ac mewn 'swigod gwybodaeth' ar y Ffurflen Gais.

Sgrinio Moeseg Ymchwil

Cylch Gorchwyl

Aelodaeth Cyfadrannau ac Ysgolion

Dylai myfyrwyr gysylltu â'u goruchwylwyr yn y lle cyntaf i gael cyngor.

Ar gyfer staff, yn aml bydd y cyngor gorau ar Foeseg Ymchwil ar gael gan eraill yn yr un maes pwnc; cysylltwch â chydweithiwr yn eich maes o'r rhestr isod:

Aseswyr Moeseg y Gyfadran

Gwybodaeth