Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr hir 2024.

A Spell of Good Things gan Ayobami Adebayo (Canongate Books)

A Spell of Good Things gan Ayọ̀bámi Adébáyọ̀ (Canongate Books)
Mae Ayọ̀bámi Adébáyọ̀, awdur Stay With Me, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr y Menywod, yn datgelu stori syfrdanol am Nigeria fodern a dau deulu wedi'u dal gan ddyfroedd geirwon cyfoeth, pŵer, obsesiwn rhamantus a llygredigaeth wleidyddol.

Mae Eniola yn dal am ei oedran, yn fachgen â golwg dyn arno.
Mae ei dad wedi colli ei swydd, felly mae Eniola yn treulio ei ddiwrnodau'n mynd ar neges ar gyfer y teiliwr lleol, yn casglu papurau newydd ac yn cardota, gan freuddwydio am ddyfodol mawr.

Mae Wuraola yn ferch ddifai, plentyn perffaith teulu cyfoethog.
A hithau bellach yn feddyg ifanc wedi blino'n lan yn ei blwyddyn gyntaf o ymarfer, mae hi'n cael ei charu gan Kunle, mab gwyllt ffrindiau ei theulu.

Pan fydd gwleidydd lleol yn ymddiddori yn Eniola a thrais sydyn yn chwalu parti teuluol, mae bywydau Wuraola ac Eniola'n cydblethu.
Yn y nofel wefreiddiol hon, mae Ayòbámi Adébáyò yn taflu goleuni ar Nigeria, ar y gagendor anferth rhwng y rhai breintiedig a'r rhai difreintiedig, a'r ddynoliaeth a rennir sy'n bodoli yn y bwlch rhyngddynt.

Ayobami Adebayo llun credyd Emmanuel Iduma

Ayọ̀bámi Adébáyọ̀, A Spell of Good Things (Canongate Books)
Ganwyd Ayọ̀bámi Adébáyọ̀ yn Lagos, Nigeria. Enillodd ei nofel gyntaf, Stay With Me, Wobr 9mobile am Lenyddiaeth, cafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Baileys am Ffuglen i Fenywod, Gwobr Wellcome i Lyfrau a Gwobr Llawysgrif Kwani? Fe'i cyfieithwyd i ugain o ieithoedd a dyfarnwyd gwobr y Prix Les Afriques i'r cyfieithiad Ffrangeg. Cafodd Stay With Me le ar restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a Gwobr Lenyddol Ryngwladol Dulyn, ac roedd yn Llyfr Gorau'r Flwyddyn yn ôl New York Times, Guardian, Chicago Tribune ac NPR. Mae Ayòbámi Adébàyò yn rhannu ei hamser rhwng Norwich a Lagos.

X: @ayobamiadebayo  |  Instagram: @ayobamidebayo
[Credyd llun: Emmanuel Iduma]

Small Worlds gan Caleb Azumah Nelson (Viking, Penguin Random House UK)

Small Worlds gan Caleb Azumah Nelson (Viking, Penguin Random House UK)
Dawnsio yw'r unig beth sy'n gallu datrys problemau Stephen.

Yn yr eglwys gyda'i deulu, y dwylo duon wedi'u codi mewn canmoliaeth. Gyda'i fand yn gwneud cerddoriaeth, yn canu nid yn unig am eu caledi ond eu llawenydd hefyd. Yn ymlacio gyda'i ffrind gorau, mor agos y gallai eu pennau gyffwrdd. Yn dawnsio ar ei ben ei hun i sain recordiau ei dad, yn darganfod rhannau o’r dyn nad yw byth wedi'i adnabod yn iawn. Ei ieuenctid, cywilydd ac aberth.

Dim ond mewn caneuon mae Stephen wedi ei adnabod ei hun erioed. Ond beth a ddaw ohono pan fydd y gerddoriaeth yn tewi?

Mae Small Worlds, sy'n disgrifio digwyddiadau tri haf, o dde Llundain i Ghana ac yn ôl eto, yn nofel am y bydoedd rydym yn eu creu i'n hunain. Y bydoedd lle rydym yn byw, yn dawnsio ac yn caru.

Caleb Azumah Nelson

Caleb Azumah Nelson, Small Worlds (Viking, Penguin Random House)
Mae Caleb Azumah Nelson yn awdur ac yn ffotograffydd Prydeinig-Ghanaidd sy'n byw yn ne-ddwyrain Llundain. Enillodd ei nofel gyntaf, Open Water, Wobr Costa am Nofel Gyntaf a Nofel Gyntaf y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain, a chyrhaeddodd frig rhestr y Times o lyfrau sydd wedi gwerthu'n arbennig o dda. Hefyd, cafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y  Sunday Times, Llyfr y Flwyddyn Waterstones, a chyrhaeddodd restr hir Gwobr Gordon Burn a Gwobr Elliott Desmond. Roedd ei ail nofel, Small Worlds yn llyfr sydd wedi gwerthu'n arbennig o dda yn ôl y Sunday Times a chafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Orwell am Ffuglen Wleidyddol. Fe'i dewiswyd gan Brit Bennett yn anrhydeddai '5 under 35' ar gyfer y Sefydliad Llyfrau Cenedlaethol.

X: @CalebANelson  |  Instagram: @caleb_anelson

The Glutton gan A.K. Blakemore (Granta)

The Glutton gan A.K. Blakemore (Granta)
Ni chaiff y Chwaer Perpetue symud. Ni chaiff gwympo i gysgu. Ei gorchwyl yw eistedd, gan gadw gwyliadwriaeth dros ystafell y claf. Mae hi wedi clywed straeon am ei newyn, sydd y tu hwnt i grediniaeth: ei fod wedi bwyta pob math o greaduriaid a gwrthrychau. Plentyn hyd yn oed, os gallwch chi gredu'r sïon. Ond mae'n anodd credu mai'r dyn main, eiddil hwn yw'r un roeddwn nhw'n arfer ei alw'n Tarare Fawr, Bolgi Lyon.

 Cyn hynny, Tarare yn syml oedd. Yn llawn bwriadau da ac yn hynod chwilfrydig, wedi'i eni i fyd o ddyrnu a seidr melys, i fam weddw a thlodi. Mae'r 18fed ganrif yn dirwyn i ben, mae cynnwrf ym mhob man yn Ffrainc ac mae bywyd yn y pentref ar fin cael ei weddnewid. Wrth i Tarare gael ei daflu allan a'i adael yn agos at farwolaeth yn dilyn gweithred sydyn o drais, mae ei chwant anferthol am fwyd yn cael ei danio a chyn hir, daw'n destun rhyfeddu ledled y wlad oherwydd ei alluoedd anhygoel i fwyta.

Gan ddilyn hynt Tarare wrth iddo deithio o dde Ffrainc i Baris a'r tu hwnt, drwy ganol y chwyldro, mae The Glutton, yn daith gyffrous, wefreiddiol i fyd terfysg, cynnwrf a llygredigaeth, lle'r unig peth sy'n cymharu â newyn un gwerinwr yw galwadau anniwall dinasyddion Ffrainc.

A.K. Blakemore llun credyd Alice Zoo

A.K. Blakemore, The Glutton (Granta)
Enillodd nofel gyntaf A.K. Blakemore, The Manningtree Witches, Wobr Desmond Elliot 2021, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Costa am Nofel Gyntaf, ac roedd yn Llyfr y Mis Waterstones. Mae hi'n awdur dau gasgliad llawn o farddoniaeth, Humbert Summer a Fondue, ac fe enillodd Wobr Ledbury Forte 2019 am yr Ail Gasgliad Gorau, ac mae hefyd wedi cyfieithu gwaith y bardd o Sichuan Yu Yoyo. Mae ei barddoniaeth a'i rhyddiaith wedi ymddangos yn y London Review of Books, Poetry, Poetry Review a White Review, ymhlith cyhoeddiadau eraill.

X: @akblakemore  |  Instagram: @barbiedreamhearse
[Credyd llun: Alice Zoo
]

Bright Fear gan Mary Jean Chan (Faber & Faber)

Bright Fear gan Mary Jean Chan (Faber & Faber)
Yn dilyn eu casgliad cyntaf arobryn, Flèche (2019), cyhoeddir ail gasgliad gloyw Mary Jean Chan: Bright Fear. Drwy gerddi sy'n ymdrin yn ddiofn â themâu cydgysylltiedig hunaniaeth, amlieithrwydd ac etifeddiaeth ôl-drefedigaethol, mae gwaith diweddaraf Chan yn archwilio dynameg ddatblygol teulu, yn ogystal â microymosodiadau sy'n deillio o homoffobia a'r hiliaeth wrth-Asiaidd a oedd yn cyd-fynd â phandemig Covid.

Ond eto mae Bright Fear yn llawn eiliadau o harddwch, tynerwch a gras. Mae'n gofyn sut gallem ddod o hyd i gartref yn ein cyrff ein hunain, mewn lleoedd pell ac agos, ac ym 'man gwneud y gerdd’. Mae'r adran fyfyriol yn y canol, Ars Poetica, yn olrhain rôl llwyr iachaol a thrawsnewidiol barddoniaeth yn ystod arddegau ac oedolaeth y bardd, gan orffen mewn cymodiad polyffonig tafodau. Drwy gydol y gwaith, mae Chan yn cynnig ffyrdd  newydd a chymhellol o wrthsefyll: 'the quotidian tug- / of-war between terror and love’.

‘[Chan] is one of those rare poets who leave you looking up with a sense that you can engage even the smallest part of the world around you with a much greater intensity.’ PN Review

Mary Jean Chan

Mary Jean Chan, Bright Fear (Faber & Faber)
Mary Jean Chan yw awdur Flèche (Faber & Faber, 2019), a enillodd Wobr Llyfr Costa am Farddoniaeth ac a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a Gwobr Casgliad Barddoniaeth Cyntaf Canolfan Seamus Heaney. Cyrhaeddodd Bright Fear, sef ail lyfr Chan, restr fer Gwobr Forward 2023 ar gyfer y Casgliad Gorau ac ar hyn o bryd mae ar restr fer Gwobr yr Awduron. Yn 2022, gwnaeth Chan gyd-olygu'r antholeg glodwiw 100 Queer Poems gydag Andrew McMillan. A hithau'n un o feirniaid diweddar Gwobr Booker 2023, mae Chan yn Gymrawd Barddoniaeth Judith E. Wilson ym Mhrifysgol Caergrawnt.

X: @maryjean_chan  |  Instagram: @maryjeanchan

Penance gan Eliza Clark

Penance gan Eliza Clark (Faber & Faber)
Ydych chi'n gwybod beth ddigwyddodd eisoes? Oeddech chi'n ei hadnabod hi? Weloch chi hynny ar y rhyngrwyd? Wnaethoch chi wrando ar bodlediad? Oedd y cyflwynwyr yn dweud jôcs?

Weloch chi'r lluniau o'r corff?

Wnaethoch chi chwilio amdanynt?

Mae'n ddegawd bron ers i lofruddiaeth erchyll Joan Wilson a hithau'n 16 oed ysgwyd Crow-on-Sea, ac mae digwyddiadau'r noson ofnadwy honno bellach yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf.

Y stori honno yw Penance, camp aruthrol o grefft adrodd stori, lle mae Eliza Clark yn ein tywys drwy adroddiadau gan drigolion y dref fach hon ar lan y môr. Gan ein rhoi dan ofal dibynadwy’r newyddiadurwr Alec Z Carelli, mae Clark yn caniatáu iddo lunio'r hyn mae'n honni yw’r 'adroddiad diffiniol' am y llofruddiaeth - a'r hyn a arweiniodd ati. Yn seiliedig ar oriau o gyfweliadau â thystion ac aelodau'r teulu, ymchwil hanesyddol drylwyr ac, yn fwyaf nodedig, ohebiaeth â'r llofruddwyr eu hunain, y canlyniad yw ciplun gafaelgar o fywydau wedi'u hysgwyd gan drasiedi, a thref wedi'i gadael mewn helbul.

Yr unig gwestiwn yw: faint ohono sy'n wir?

Eliza Clark llun credyd Robin Silas Christian

Eliza Clark, Penance (Faber & Faber) 
Eliza Clark yw awdur Boy Parts (2020) a Penance (2023). Yn 2020 Boy Parts oedd Llyfr Ffuglen y Flwyddyn Blackwell's, ac yn 2022 cyrhaeddodd Eliza rownd derfynol Gwobr Prize Futures i Fenywod i awduron dan 35 oed. Yn 2023 fe'i henwyd yn un o Nofelwyr Prydeinig Ifanc Gorau Granta yn 2023. Mae hi hefyd yn ysgrifennu ar gyfer byd ffilm a theledu. Perfformiwyd addasiad llwyfan o Boy Parts am y tro cyntaf yn Theatr Soho ym mis Hydref 2023.

X: @FancyEliza  |  Instagram: @fancyeliza
[Credyd llun: Robin Silas Christian]

The Coiled Serpent gan Camilla Grudova

The Coiled Serpent gan Camilla Grudova (Atlantic Books)
Mae merch fach yn cyfogi dannedd Gloria-Jean ar ôl ffrwydrad yn y ffatri cwstard. Mae Pax, Alexander ac Angelo wedi'u swyno fel petaent wedi’u hypnoteiddio gan lyfr sy’n addo goleuni iddynt os ydynt yn cadw eu semen y tu mewn i'w cyrff; anfonir Victoria i westy melltigedig ar gyfer merched sâl pan ddaw ei misglwyf i ben yn ddiesboniad. Mewn sba llaith, pydredig, mae diflastod manteisgar gwaith yn tanio gwrthryfel; mewn amgueddfa ym Margate, mae'r Cyfarwyddwr newydd yn curadu gardd wenwynig at ddefnydd y cyhoedd.

Yn arddull swreal gofiadwy Grudova, mae'r straeon hyn yn datgelu'r hurtrwydd y tu ôl i syniadau cyfoes am waith, Prydeindod a chreu celf, i greu rhyfeddod syfrdanol sy'n profi crefft gelfydd awdur ar anterth ei doniau.

Camilla Grudova (c) Christina Webber

Camilla Grudova, The Coiled Serpent (Atlantic Books)
Mae Camilla Grudova yn byw yng Nghaeredin lle mae'n gweithio fel gweithredwr sinema a gweinyddes. Mae ei gwaith ffuglen wedi ymddangos yn The White Review a Granta. Hi yw awdur clodwiw The Doll's Alphabet (2017), a chafodd Children of Paradise (2022) le ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr y Merched ar gyfer Ffuglen. Fe'i henwyd yn un o Nofelwyr Ifanc Gorau Prydain Granta yn 2023

[Credyd llun: Christina Webber]

Hungry Ghosts gan Kevin Jared Hosein

Hungry Ghosts gan Kevin Jared Hosein (Bloomsbury Publishing, Ecco (HarperCollins))
Roedd y gerddoriaeth yn dal i chwarae pan ddiflannodd Dalton Changoor i'r gwynt...

Ar fryn yn edrych dros bentref Bell, saif fferm Changoor, lle mae Dalton a Marlee Changoor yn byw mewn moethusrwydd sy'n ddiarth i'r rhai sy'n byw yng nghysgod y fferm. Islaw ceir y gwersyllty, adeilad adfeiliedig o bren a thun, wedi'i rannu'n ystafelloedd lle mae teuluoedd cyfan yn byw. Ymhlith y teuluoedd hyn y mae'r teulu Saroop - Hans, Shweta a'u mab, Krishna, sy'n byw bywydau anodd o waith llafurus, tlodi di-baid ac ymroddiad i ffydd.

 Pan aiff Dalton Changoor ar goll a pheryglir diogelwch Marlee, mae'r gweithiwr fferm, Hans, yn cael ei ddenu gan addewid cyflog hael i symud i'r fferm fel gwarchodwr. Ond wrth i ddirgelwch diflaniad Dalton gael ei ddatgelu, mae eu bywydau'n cymhlethu'n ofnadwy ac mae'r gymuned fach yn newid am fyth.

Mae Hungry Ghosts yn nofel afaelgar am drais, crefydd, teulu a dosbarth, wedi'i gwreiddio yn nhirwedd wyllt a gwledig canol Trinidad drefedigaethol yn y 1940au.

Kevin Jared Hosein

Kevin Jared Hosein, Hungry Ghosts (Bloomsbury Publishing, Ecco (HarperCollins)) 
Mae Kevin Jared Hosein yn nofelydd Caribïaidd. Fe'i henwyd yn enillydd cyffredinol Gwobr Stori Fer y Gymanwlad yn 2018, ac ef oedd enillydd rhanbarthol y Caribî yn 2015. Mae wedi cyhoeddi dau lyfr: The Repenters a The Beast of Kukuyo. Enillodd yr ail lyfr Wobr CODE Burt am Lenyddiaeth Oedolion Ifanc Caribïaidd, ac roedd y ddau ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Lenyddol Ryngwladol Dulyn. Cyhoeddwyd ei waith mewn nifer o antholegau a chyhoeddiadau. Mae'n byw yn Trinidad a Tobago.

X: @kevinjhosein  |  Instagram: @kjaredhosein

Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books)

Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books)
Yn Local Fires, mae ffocws yr awdur newydd, Joshua Jones, ar ei fan geni sef Llanelli, de Cymru.  Yn eironig ac yn felancolaidd, yn llawn llawenydd a galar, er bod y straeon amlweddog hyn wedi'u gosod mewn tref fach, maen nhw’n ymestyn ymhell y tu hwnt i'w hardal leol. O'r llesgedd o fyw mewn hen ardal dosbarth gweithiol, ddiwydiannol, i rywedd, rhywioldeb, gwrywdod tocsig a niwroamrywiaeth, mae Jones wedi llunio casgliad sy'n amlochrog o ran thema ac arsylwi, wrth i anffawd trigolion y dref fygwth gorlifo i ddiweddglo ffrwydrol.

Yn y gyfres drawiadol hon o straeon cysylltiedig, mae tanau llythrennol a throsiadol, lleol a hollgynhwysol, yn fflamio ynghyd i gyflwyno dyfodiad llais llenyddol Cymreig neilltuol newydd.

Joshua Jones (c) Nik Roche

Joshua Jones, Local Fires (Parthian Books)
Mae Joshua Jones (ei/ef) yn awdur ac yn artist awtistig cwiar o Lanelli, de Cymru. Sefydlodd Dyddiau Du ar y cyd, sef gofod celf a llenyddiaeth NiwroCwiar yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd ei ffuglen a'i farddoniaeth gan Poetry Wales, Broken Sleep Books, Gutter ac eraill. Mae'n un o Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2023, ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r British Council i gysylltu awduron cwiar o Gymru a Fietnam. Local Fires yw ei gyhoeddiad ffuglen cyntaf.

X: @nothumanhead  |  Instagram: @joshuajoneswrites
[Credyd llun: Nik Roche]

Biography of X gan Catherine Lacey (Granta)

Biography of X gan Catherine Lacey (Granta)
Yn sgîl marwolaeth X - artist eiconoclastig a chymeriad oriog sy'n polareiddio barn - mae ei gweddw sy'n wallgof yn ei galar, yn ei thaflu ei hun i ysgrifennu bywgraffiad o'r fenyw roedd yn ei haddoli. Er i X gael ei chydnabod fel grym creadigol hollbwysig ei hoes, roedd hi'n cadw stori ei bywyd yn breifat. Nid oedd hyd yn oed CM, ei gwraig, yn gwybod lle ganwyd X, ac yn ei hymdrechion i ddarganfod hyn, mae'n agor cist Pandora o gyfrinachau, bradychu a dinistr. Drwy hyn i gyd, mae hi'n ymdrochi yn hanes y Diriogaeth Ddeheuol, theocratiaeth ffasgaidd a ymrannodd o weddill y wlad ar ôl yr Ail Ryfel Byd, nes iddi o'r diwedd yn yr oes sydd ohoni, gael ei gorfodi i ildio i ailuniad anesmwyth.

Antur lenyddol wrth-ffeithiol â chystrawen feistrolaidd, sy'n cynnwys lluniau gwreiddiol wedi'u casglu gan weddw X, mae Biography of X, yn dilyn gwraig alarus sy'n ceisio deall y fenyw a oedd yn ei chyfareddu. Mae CM yn olrhain taith grwydrol X dros y degawdau, o Ewrop i adfeilion tiriogaethau rhanedig America, a thrwy ei chydweithrediadau a'i chynhennau gyda phawb, o David Bowie a Tom Waits i Susan Sontag a Kathy Acker. Ac wrth iddi ddeall o'r diwedd gwmpas prosiect celfyddydol diffiniol X, mae CM yn sylweddoli bod dichellion ei gwraig yn llawer mwy creulon nag yr oedd hi wedi dychmygu.

Yn byrlymu â gwewyr a deallusrwydd, mae Biography of X yn waith epig gwyllt sy'n archwilio dyfnderoedd galar, celf a chariad, gan gyflwyno cymeriad bythgofiadwy sy'n dangos i ni ffaeledigrwydd y straeon rydym yn eu llunio i'n hunain.

Catherine Lacey llun credyd Willy Somma

Catherine Lacey, Biography of X (Granta)
Catherine Lacey yw awdur y nofelau Nobody Is Ever Missing, The Answers a Pew, a'r casgliad o straeon byrion Certain American States. Mae hi wedi ennill Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Whiting, Gwobr Ffuglen Llewod Ifanc Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd a chymrodoriaeth Sefydliad y Celfyddydau Efrog Newydd. Mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas a Gwobr Llyfrau PEN/Jean Stein, ac fe'i henwyd yn un o Nofelwyr Ifanc Americanaidd Gorau Granta. Mae ei thraethodau a'i ffuglen fer wedi ymddangos yn The New Yorker, Harper's Magazine, The New York Times, The Believer a mannau eraill. Fe'i ganwyd yn Mississippi, mae Catherine ar hyn o bryd yn gymrawd yng Nghanolfan Dorothy B & Lewis Cullman ar gyfer awduron ac ysgolheigion yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, ac fel arall mae wedi'i lleoli yn Ninas Mecsico.

X: @_catherinelacey  |  Intstagram: catherinelacey_
[Credyd llun: Willy Somma]

Close to Home gan Michael Magee

Close to Home gan Michael Magee (Hamish Hamilton, Penguin Random House UK)
Mae Sean yn ôl. Yn ôl yn Belfast ac yn ôl yn ei hen arferion. Yn ôl ar y sesiynau gwyllt sy’n para drwy'r nos, yn benthyca decpunt a ddim yn talu'r rhent, y swyddi dros dro nad ydyn nhw byth yn para. Yn ôl yn y strydoedd creithiog hyn, lle nad yw'r ffyniant roedd heddwch yn ei addo wedi cyrraedd. Yn ôl ymhlith ei frodyr, ei fam a'r holl bethau nad ydyn nhw byth yn eu trafod. Nes i Sean gael ei hun mewn parti ryw nos - wedi blino'n lan a'i amgylchynu gan ddieithriaid gwawdlyd, â'i gefn yn erbyn y wal - ac mae'n gwneud camgymeriad mawr.

Michael Magee

Michael Magee, Close to Home (Hamish Hamilton, Penguin Random House UK)
Michael Magee yw golygydd ffuglen y Tangerine a graddiodd o'r rhaglen PhD ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast. Mae ei waith wedi ymddangos yn y Winter Papers, The Stinging Fly, The Lifeboat a The 32: The Anthology of Irish Working-Class Voices. Close to Home yw ei nofel gyntaf. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Waterstones i Ffuglen Gyntaf 2023 ac enillodd Wobr Rooney am Lenyddiaeth yn 2023.

X: @michaelmagee__  |  Instagram: @michaelmagee__

Open Up gan Thomas Morris

Open Up gan Thomas Morris (Faber and Faber)
O blentyn yn mynd i'w gêm pêl-droed gyntaf, ei ysbryd wedi'i gynnal gan hud cudd, a phortread o lasoed sy'n ingol o dirion, i ddryswch galar a cholled drwy lygaid morfarch, mae Thomas Morris yn ceisio darganfod gras, gobaith a charedigrwydd yng nghynnwrf cythryblus hunan-ddarganfod.

Yn athronyddol acíwt.
Yn ingol o dirion. Yn drawiadol o wreiddiol.  Mae'r casgliad neilltuol hwn o straeon yn llawn dyfnder emosiynol iachusol. Mae Open Up yn torri'r galon wrth iddo ehangu ffurf y stori fer.

Thomas Morris llun credyd Michael O'Carroll

Thomas Morris, Open Up (Faber & Faber)
Mae Thomas Morris yn dod o Gaerffili, de Cymru. Enillodd ei gasgliad cyntaf o storïau, We Don't Know What We're Doing (Faber & Faber) wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru, Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies, a Gwobr Somerset Maugham. Yn 2023, cafodd ei enwi'n un o Nofelwyr Ifanc Prydeinig Gorau Granta. Cyhoeddwyd Open Up, ei ail lyfr o straeon, gan Faber & Faber ym mis Awst 2023.

[Credyd llun: David O'Carroll]

Divisible by Itself and One gan Kae Tempest

Divisible by Itself and One gan Kae Tempest (Picador, (Pan Macmillan))
I want to sing you early songs. Go deeper.

I want to take you back where you began,

Find the scraps of you you hid in secret

And bring them back to life beneath my tongue.

Divisible by Itself and One yw'r casgliad pwerus newydd gan ein hadroddwr y gwirionedd mwyaf blaenllaw, Kae Tempest. Yn feddylgar, yn ddoeth, â chywair mwy myfyriol a metaffisegol yn rhedeg drwyddo, mae'n llyfr sy’n ymdrin â'r cwestiynau mawr a'r cyflyrau emosiynol rydym yn byw ynddynt ac yn eu creu. Mae rhai o'r cerddi'n arbrofi â ffurf, mydr rhydd sydd gan rai eraill, eto maent i gyd ag ymwybyddiaeth wleidyddol a moesol. Mae Divisible by Itself and One hefyd yn llyfr am y ffurf ddynol, y corff fel ffin a sut mae'r byd yn ein dehongli. Gan gymryd ei gyfeiriad - a'i deitl - o'r rhif cysefin, mae Divisible by Itself and One yn ymwneud yn y bôn â chyfanrwydd: sut i fyw mewn perthynas â chi eich hun ac eraill.

Kae Tempest

Kae Tempest, Divisible by Itself and One, (Picador, (Pan Macmillan))
Mae Kae Tempest yn fardd, yn awdur, yn awdur geiriau, yn berfformiwr ac yn artist recordio. Mae wedi cyhoeddi dramâu, cerddi, nofel a thraethawd hyd llyfr, mae wedi rhyddhau albymau ac wedi teithio'n helaeth, gan ddenu cynulleidfaoedd llawn mewn sioeau o Reykjavik i Rio de Janeiro.

Cafodd enwebiadau am Wobr Cerddoriaeth Mercury ar gyfer yr albymau Everybody Down a Let Them Eat Chaos, a dau enwebiad am wobrau Ivor Novello am ysgrifennu caneuon ar The Book of Traps and Lessons. Enwyd Tempest yn Fardd y Genhedlaeth Nesaf yn 2014, enillodd Wobr Ted Hughes am gerdd naratif ar ffurf hir Brand New Ancients a gwobr Leone D'Argento yn Biennale Teatro Fenis am waith fel dramodydd.

X: @kaetempest  |  Instagram: @kaetempest