Croeso i Brifysgol Abertawe!

Os ydych chi'n fyfyriwr newydd, gallwch gasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr Prifysgol Abertawe ar ôl i chi ymrestru.

Cyfeiriwch at y wybodaeth isod cyn mynychu a'ch lleoliad Casglu Cardiau Adnabod, os gwelwch yn dda.

Beth sydd angen i mi wneud er mwyn casglu fy ngherdyn?

Gwiriwch eich bod wedi cyflawni'r camau isod cyn i chi mynd i gasglu'ch cerdyn.

  • Lanlwythwch eich llun fel ein bod yn gallu argraffu eich cerdyn cyn i chi ddod
  • Cwblhewch ymrestru ar-lein
  • Gwiriwch eich lleoliad casglu a'r oriau agor
  • Cofiwch ddod a'ch pasbort neu'r prawf adnabod arall wnaethoch lanlwytho i'r fewnrwyd cyn i chi ymrestru

Pryd ac o ble gallaf casglu fy ngherdyn adnabod?

Hysbysiad Pwysig

Rhaid i chi gadw eich cerdyn adnabod y brifysgol gyda chi ar bob adeg pan rydych chi ar gampws, a'i ddangos i staff y brifysgol pan ofynnir. Peidiwch byth a rhoi eich cerdyn adnabod y brifysgol i unrhyw un arall i'w ddefnyddio o dan unrhyw amgylchiadau. Os nad ydych yn gallu mynychu darlithoedd yn bersonol, dylech roi wybod i'ch adran. Os nad ydych yn gallu casglu eitemau llyfrgell yn bersonol, dylech roi wybod i Lyfrgell MyUni. Gall defnydd amhriodol o'ch cerdyn adnabod y brifysgol arwain i chi gael rhybudd ffurfiol a'r posibilrwydd o weithrediad pellach gan y brifysgol. Gall hwn gynnwys cael eich tynnu'n ôl o'ch cwrs.