Ysgoloriaethau mathemateg

Student in Library

am ein ysgoloriaethau adrannol

Mae Adran Mathemateg Prifysgol Abertawe yn bwriadu cynnig gwobrau / ysgoloriaethau Mathemateg sy'n werth hyd at gyfanswm o £3000 i fyfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau prifysgol ym mis 10 Medi 2027. Caiff y gwobrau eu dyfarnu ar sail arholiad cystadleuol, dwy awr a hanner. Dylai myfyrwyr allu sefyll yr arholiad yn eu hysgol neu goleg. Mae ceisiadau ar agor i fyfyrwyr cartref a thramor sydd wedi dewis un o gyrsiau israddedig yr Adran Fathemateg yn Abertawe fel un o'u dewisiadau UCAS.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd yr arholiad ysgoloriaeth ddychwelyd y ffurflen gais: ARHOLIAD YSGOLORIAETH MATHEMATEG 2027

Neu e-bostiwch: maths-scholarships@swansea.ac.uk 

Gallwch lawrlwytho papur arholiad 2026 yma: Arholiad 2026

Nodyn: Bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig nifer o Fwrsariaethau Rhagoriaeth gwerth £3,000 i fyfyrwyr sy'n derbyn canlyniadau AAA yn eu Safon Uwch (Lefel A neu gyfwerth) a £2,000 i fyfyrwyr sy'n derbyn canlyniadau AAB yn eu Safon Uwch (Lefel A neu gyfwerth). Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/ysgoloriaethau/ysgoloriaethau-rhagoriaeth/

Enillydd Ysgoloriaeth 2025/2026

Issabelle P. Kent-Jackson

Issabelle P. Kent-Jackson, Ysgol a Chweched Ddosbarth Hedingham

"I ddechrau, doeddwn i ddim wedi ystyried sefyll yr arholiad ysgoloriaeth, ond yn y diwrnod agored cefais anogaeth gref i gymryd rhan, a chefais ddealltwriaeth gliriach o'r cyfleoedd y gallai Prifysgol Abertawe eu cynnig i mi. Pan enillais ysgoloriaeth, cefais gryn syndod. Fe wnaeth hyn godi fy hunan hyder a gwneud i mi sylweddoli'r potensial sydd gen i, i astudio yn y Brifysgol, gan roi cyfle i mi ymchwilio'n ddyfnach i bwnc rwy'n angerddol amdano.

Yn ogystal, mae'r cymhelliant ariannol wedi fy ngalluogi i gofleidio bywyd Prifysgol a gweithio tuag at fy nodau gyrfa fel actiwari. Credaf yn gryf y gall unrhyw un, sydd ag agwedd bositif at waith, agwedd benderfynol ac ysgogiad, gyflawni ei nodau, ni waeth pa heriau y gallai eu hwynebu, ar yr amod bod ganddo amgylchedd sy’n cynnig cymorth ac yn grymuso unigolion, fel Prifysgol Abertawe.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y blynyddoedd nesaf o astudio ac at ehangu fy ngorwelion."

Megan Francis, Porthcawl Comprehensive School

"Roedd yr arholiad yn heriol ond yn werth pob eiliad a dreuliais arno; roedd yn ffordd wych o brofi fy ngallu. Rhoddodd yr arholiad yr hyder i mi  allu symud ymlaen o safon Uwch A a mynd ymlaen i'r Brifysgol."

Megan Francis