Fel myfyriwr Astudiaethau Americanaidd, efallai y byddwch eisoes wedi cofrestru ar gyfer rhaglen sy’n cynnwys blwyddyn dramor neu, os nad ydych, bydd gennych ddewis i drosglwyddo o’ch cynllun gradd tair blynedd i gwrs pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn dramor. Fel arfer, bydd angen i chi ddechrau meddwl am hyn yn ystod eich blwyddyn gyntaf ac yna ddod draw i sgyrsiau Astudio Dramor ar ddechrau eich ail flwyddyn, lle byddwn yn dweud wrthych am yr hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud nesaf.
Yn y cyfamser, edrychwch ar y prifysgolion partner canlynol, sy’n ddewisiadau poblogaidd i fyfyrwyr Astudiaethau Americanaidd. Gall y rhestr hon newid yn flynyddol gan fod nifer y lleoedd sydd ar gael a’r cyrchfannau’n amrywio o un flwyddyn i’r llall felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg!