Trosolwg o'r Cwrs
Ymchwiliwch i ddyfnderoedd peirianneg awyrofod gyda ffocws penodol ar ddyluniad a gweithgynhyrchu hedfanaeth cynaliadwy gydag MSc mewn Hedfanaeth Cynaliadwy ym Mhrifysgol Abertawe.
Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn meistroli cymhlethdodau gyriad uwch ac yn datgelu cyfrinachau technolegau awyrennau sero net y genhedlaeth nesaf. Byddwch yn astudio aerodynameg, strwythurau fframiau awyr, deinameg a rheoli hedfan, gan blymio i fyd hynod ddiddorol deunyddiau cyfansawdd.
Byddwch yn cael addysg drwyadl, sy'n edrych i'r dyfodol a fydd yn rhoi'r wybodaeth, yr ymwybyddiaeth feirniadol a'r mewnwelediad ymarferol uwch sydd eu hangen arnoch i fynd i'r afael ag un o heriau byd-eang mwyaf dybryd ein hoes, sef y trawsnewidiad i hedfan sero net sy'n llesol i’r amgylchedd.
Mae'r cwrs MSc Hedfanaeth Cynaliadwy yn Abertawe yn cyfuno damcaniaeth â dysgu ymarferol. Byddwch chi'n datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o ddamcaniaeth, dyluniad a gweithrediad cerbydau awyrofod, gyda ffocws penodol ar yriad cynaliadwy, gweithgynhyrchu carbon isel, a thechnolegau awyrennau'r genhedlaeth nesaf.
Byddwch chi'n cael profiad o ddysgu ymarferol wrth i chi fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn drwy brosiectau ymchwil unigol ac mewn grŵp, a chysylltu â chewri'r diwydiant.
Nid yw ein rhaglen yn dechrau nac yn gorffen gyda hedfanaeth cynaliadwy. Byddwch yn dysgu am gysyniadau'r economi gylchol a pheirianneg gynaliadwy, gan sicrhau eich bod â'r sgiliau i fynd i'r afael â heriau yfory o bob ongl a chwyldroi gwaith adeiladu awyrennau.
Does dim terfyn i'ch taith; y dechrau yn unig yw'r radd MSc Hedfanaeth Cynaliadwy ym Mhrifysgol Abertawe.