Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o ansawdd uchel, sydd wedi’i llywio gan ymchwil, sy'n cyfuno amrywiaeth o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol, wedi'u teilwra'n ofalus i ddiwallu anghenion eich cwrs. Addysgir y cwrs hwn wyneb yn wyneb, ar y campws, gan roi cyfle i chi feithrin cysylltiadau â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned ehangach y brifysgol.
Mae ein rhaglen Peirianneg Fecanyddol yn mabwysiadu ymagwedd gynhwysol a hyblyg at ddysgu, addysgu ac asesu, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cymryd rhan yn llawn a llwyddo.
Mae addysgu yn defnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai, labordai, dosbarthiadau CAD ac efelychu, a gweithgareddau sy'n seiliedig ar brosiectau, wedi’i ategu gan ddeunyddiau ar-lein sy'n eich galluogi i ddysgu ar eich cyflymder eich hun.
Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad dysgu. Gallai’r rhain gynnwys:
- Darlithoedd wedi'u recordio i'ch cefnogi i astudio ac adolygu mewn modd hyblyg; maen nhw'n cael eu recordio gan ddefnyddio Panopto ac yn cynnwys capsiynau (ac eithrio sesiynau labordy a rhai gweithgareddau grŵp lle nad yw hyn yn bosibl)
- Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol (Canvas), gan gynnwys fideos, deunyddiau darllen, cwisiau a fforymau trafod
Mae'r ymagwedd hon yn eich galluogi i ymdrin â chynnwys a'i adolygu yn eich amser eich hun wrth elwa o strwythur a chefnogaeth addysgu wyneb yn wyneb.
Sylwer: Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio â Fisa Llwybr Myfyrwyr, sylwer y bydd eich gweithgareddau wedi'u hamserlennu, ynghyd ag unrhyw weithgareddau goruchwylio ychwanegol (gyda staff Prifysgol Abertawe yn bresennol) yn cael eu cynnal ar y campws. Yn unol â phrotocol UKVI, bydd y sesiynau hyn yn cael eu monitro a bydd data ar gael ar gais.