Peirianneg Sifil, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Civil

Trosolwg o'r Cwrs

Yn y degawdau nesaf, bydd peirianwyr sifil yn wynebu pwysau cynyddol gan newid hinsawdd, isadeiledd sy'n heneiddio a threfoli cyflym. I ymateb yn effeithiol, bydd angen i beirianwyr sifil y dyfodol feddu ar arbenigedd technegol cryf, ynghyd â sgiliau ym meysydd cynaliadwyedd, technolegau digidol a dadansoddi data, yn ogystal â sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu, i reoli prosiectau cymhleth a chydweithredu â rhanddeiliaid amrywiol, mewn byd carbon isel sy'n cael ei reoleiddio fwyfwy.

Mae ein MSc achrededig mewn Peirianneg Sifil yn dyfnhau eich dealltwriaeth beirianyddol ar draws sectorau dŵr, trafnidiaeth, geotechnegol, strwythurau a chynaliadwyedd. Mae'r rhaglen yn cryfhau'r sylfeini technegol byddwch chi wedi'u hadeiladu yn ystod eich astudiaethau israddedig, ac yn eich helpu i ddatblygu'n beiriannydd hynod fedrus sy'n gallu dadansoddi problemau cymhleth, creu isadeiledd gwydn ac arwain y prosiectau sydd bwysicaf i gymunedau.

Yn ogystal â hyn, mae'r rhaglen yn eich helpu i ddeall egwyddorion rheoli timau a phrosiectau peirianneg, gan adlewyrchu'r amgylcheddau nodweddiadol y mae peirianwyr sifil yn gweithredu ynddynt. Ar yr un pryd, byddwch yn magu hyder mewn dulliau ymchwil drwy gwblhau traethawd hir. Gall hwn ganolbwyntio ar bwnc sydd o ddiddordeb arbennig i chi, neu gall fod yn gysylltiedig â lleoliad gwaith diwydiannol, y gallwch ei gwblhau drwy ein cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant.

Pam Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae'r radd MSc hon yn darparu cyfuniad o sgiliau dadansoddol, dylunio, cyfrifiadol a rheoli sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol ag anghenion sefydliadau isadeiledd modern.

Mae'r cwrs wedi cael ei greu gyda mewnbwn uniongyrchol gan Fwrdd Cynghorol y Diwydiant Peirianneg Sifil y mae ei aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o AtkinsRealis, Stantec, WSP, Mott MacDonald a chyflogwyr blaenllaw eraill. Mae eu harweiniad yn helpu i sicrhau bod eich dysgu'n adlewyrchu'r heriau a'r cyfleoedd sy'n llunio'r dirwedd peirianneg heddiw, gan sicrhau eich bod yn cael y paratoad gorau posib am eich gyrfa.

Addysgir ein rhaglenni Peirianneg ar ein Campws y Bae sydd ar yr arfordir, â golygfeydd dros Fae Abertawe, ar gyrion Penrhyn Gŵyr. Byddwch chi'n ymuno ag adran uchel ei pherfformiad, sydd ar hyn o bryd yn:

  • Un o'r 201-275 o adrannau gorau'r byd am Beirianneg - Sifil a Strwythurol (Safleoedd Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025) ac mae
  • 100% o'n hamgylchedd yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).

Eich profiad ym maes Peirianneg Sifil

Mae Abertawe'n cynnig amgylchedd dysgu lle mae chwilfrydedd am beirianneg yn cael ei annog ac mae sgiliau technegol yn cael eu datblygu drwy ymarfer. Byddwch yn dysgu gan academyddion sy'n weithredol ym meysydd ymchwil, ymgynghori a chydweithredu â diwydiant, sy'n golygu bod cysylltiad uniongyrchol rhwng eich addysgu a datblygiadau yn y sector ar hyn o bryd.

Bydd ein perthnasoedd hirsefydlog â diwydiant yn cryfhau eich cyflogadwyedd drwy ddarlithoedd gwadd, ymweliadau safle, digwyddiadau rhwydweithio ac arweiniad wedi'i lywio gan gyflogwyr sy'n deall beth mae ei angen ar raddedigion i lwyddo.

Mae cyrff proffesiynol megis ICE ac IStructE yn cyfrannu at sesiynau mewn modiwlau i gefnogi eich dealltwriaeth o lwybrau at gydnabyddiaeth broffesiynol ac mae tîm y rhaglen yn trefnu ymweliadau safle a gweithdai arbenigol ar gyfer yr holl fyfyrwyr. Bydd myfyrwyr sy'n rhan o'r cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant hefyd yn cael cymorth ychwanegol i ddatblygu proffil a chyflwyno ceisiadau am leoliadau.

Y traethawd hir unigol ar sail ymchwil yw elfen ganolog ein MSc sy’n eich galluogi i ymchwilio i broblemau uwch mewn peirianneg sifil a datblygu atebion arloesol iddynt gan ddefnyddio dulliau cyfrifiadol neu arbrofol. Mae'r prosiect hwn yn meithrin sgiliau hanfodol cynllunio prosiect, rheoli data a dadansoddi'n feirniadol. Bydd gennych fynediad hefyd at labordai arbenigol, meddalwedd fasnachol ac offer cyfrifiadol sy'n gallu ategu eich modiwlau a addysgir a'ch traethawd hir.

Y tu hwnt i gymhwysedd ymchwil, mae profiad y traethawd hir hefyd yn gwella meddylfryd entrepreneuraidd ac arloesol. Byddwch yn cael eich annog i ystyried cyd-destun ehangach eich atebion arfaethedig a sut y gellir eu rhoi ar waith.

Byddwch yn dysgu sut i gynllunio a chyflawni tasgau ymchwil cymhleth, rheoli adnoddau'n effeithiol ac addasu i heriau annisgwyl, gan ddatblygu'r gwydnwch, y fenter a'r galluoedd datrys problemau a ddisgwylir gan beirianwyr ôl-raddedig.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Peirianneg Sifil

Mae'r rhaglen hon wedi cael ei chynllunio yn unol â chanllawiau Cyd-fwrdd y Cymedrolwyr, gan sicrhau perthnasedd proffesiynol cryf a chysondeb amlwg ag anghenion diwydiant. Mae problemau peirianneg sifil y byd go iawn yn llywio'r dysgu drwy gydol y rhaglen, ac mae sawl modiwl yn cynnwys heriau a gyflwynir yn uniongyrchol gan bartneriaid diwydiannol i ddarparu profiad ymarferol i baratoi graddedigion am gyflogaeth.

Mae'r rhaglen yn datblygu galluoedd uwch ym meysydd gwaith tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu, sy'n sgiliau hanfodol ar gyfer ymchwil gydweithredol ac ymarfer peirianneg amlddisgyblaethol. Mae tasgau mewn grwpiau yn gofyn i chi gyfuno mathau amrywiol o arbenigedd ac i reoli gwaith datrys problemau ar y cyd gan wynebu cyfyngiadau realistig ar y prosiect.

Erbyn i chi raddio o'r MSc mewn Peirianneg Sifil yn Abertawe, byddwch chi mewn sefyllfa gref i achub ar gyfleoedd cyflogaeth gwobrwyol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Peiriannydd Sifil Ymgynghorol
  • Peiriannydd Sifil Contractio
  • Rheolwr Prosiect
  • Peiriannydd Priffyrdd/Trafnidiaeth
  • Peiriannydd Strwythurol
  • Peiriannydd Geotechnegol
  • Rheoli Risg Llifogydd
  • Peiriannydd Arfordirol a Morol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.