Trosolwg o'r Cwrs
Mae rôl y peiriannydd strwythurol o bwysigrwydd cynyddol i gymdeithas wrth i boblogaethau dyfu ac wrth i'r byd ddod yn fwy cysylltiedig. Mae nendyrau yn mynd yn uwch ac mae pontydd yn mynd yn hirach. Mae'r chwyldro Ynni Gwyrdd yn ei gwneud yn ofynnol i seilwaith cynhyrchu ynni gael ei ddylunio'n strwythurol ar gyfer gwytnwch mewn amgylcheddau llym, e.e. lleoliadau gwynt uchel neu forol dwfn. Fel cyfrannwr mawr at gynhyrchu CO2 (10% o allyriadau byd-eang), mae'r diwydiant adeiladu yn dibynnu ar beirianwyr strwythurol i ddylunio adeiladau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, gan ddefnyddio deunyddiau priodol i leihau effaith amgylcheddol y sector.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs MSc Peirianneg Strwythurol yn meithrin gwybodaeth fanwl ac yn cael profiad o syniadau a thechnegau confensiynol ac arloesol er mwyn eu galluogi i ddatblygu datrysiadau cadarn i broblemau ym maes peirianneg strwythurol.
Bydd y cwrs yn cwmpasu natur amrywiol peirianneg strwythurol drwy integreiddio gwybodaeth o feysydd mecaneg, defnyddiau, dadansoddi strwythurol a dylunio strwythurol. Bydd y rhaglen hefyd yn edrych ar y duedd dechnegol ddiweddaraf ym maes Peirianneg Sifil a Strwythurol gan gynnwys sgiliau modelu cyfrifiadurol uwch a bydd yn ymdrin yn fras â'r heriau technegol sy'n codi mewn gwaith seilwaith mawr a'r datrysiadau.