Peirianneg Electronig a Thrydanol, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Student working in the electronics lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol yn eich galluogi i fireinio sgiliau arbenigol ochr yn ochr â diddordebau ymchwil arloesol ym maes Peirianneg. Bydd eich dysgu'n adlewyrchu gofynion modern byd diwydiant electroneg. 

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i chi wneud blwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.   

Darperir cymorth ac arweiniad i'ch helpu i sicrhau eich lleoliad; ond ni ellir gwarantu y byddwch yn llwyddiannus. 

Pam dewis Peirianneg Electroneg a Thrydanol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae Peirianneg Electronig a Thrydanol ym Mhrifysgol Abertawe, sydd ar ein Campws y Bae hyfryd, yn edrych dros Fae Abertawe, yn gartref i arbenigwyr ymchwil sy'n enwog yn fyd-eang ym maes electroneg pŵer, telathrebu, nanodechnoleg a biometreg.  

Ar hyn o bryd, mae Peirianneg Electronig a Thrydanol yn: 

  • Y 301-350 gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Electronig a Thrydanol (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2025) 
  • 100% o'r amgylchedd yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol -  Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 
  • 93% o raddedigion Peirianneg Electronig a Thrydanol mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Awdurdod Safonau Addysg Uwch, 2025) 

Eich profiad Perianneg Electronig a Thrydanol

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu profiad ymarferol gydag offer safonol y diwydiant, gan gynnwys offer megis y microsgop twnelu sganio ar gyfer archwilio ar raddfa atomig, a'r dadansoddwr paramedr HP4124 ar gyfer profi dyfeisiau pŵer. Byddwch hefyd yn meithrin dealltwriaeth gadarn o brototeipio a dulliau cynhyrchu drwy weithio gyda chydrannau datblygedig a dysgu sut i adeiladu a gwerthuso modelau technegau gweithgynhyrchu modern. Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn hyderus wrth drafod, dadansoddi a chymharu atebion rheoli hyd oes cynnyrch, a deall sut mae'r ymagweddau hyn yn dylanwadu ar sectorau peirianneg a thechnoleg gwahanol. 

Byddwch yn dysgu mewn amgylchedd astudio arbennig, gyda mynediad at lyfrgell 24 awr ar y safle, labordai datblygedig, offer arbenigol, ystafelloedd gwaith penodedig ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, a rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn gan arbenigwyr diwydiant ac ymchwil. Mae'r cyfleusterau a'r profiadau hyn wedi'u dylunio i gefnogi eich dysgu, eich ymchwil a'ch datblygiad proffesiynol drwy gydol eich astudiaethau. 

Byddwch hefyd yn rhan o gymuned fywiog a chefnogol o fyfyrwyr. Mae'r gymdeithas i fyfyrwyr Peirianneg Electronig a Thrydanol yn chwarae rôl allweddol wrth eich helpu i gysylltu â myfyrwyr eraill ar eich cwrs, gan gynnig cyfleoedd i chi gwrdd â phobl newydd drwy gyfrwng digwyddiadau rheolaidd, teithiau maes, gweithdai technegol a gweithgareddau cymdeithasol. Gall y profiadau hyn eich helpu i wneud ffrindiau, cydweithredu ar syniadau ac ehangu eich dealltwriaeth o'r pwnc y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. 

Mae'r rhaglen yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo amgylchedd dysgu cynhwysol, llawn parch, lle caiff pob myfyriwr ei werthfawrogi. Beth bynnag fo'ch cefndir neu'ch profiad blaenorol, byddwch chi'n cael eich annog i rannu eich syniadau, cymryd rhan mewn trafodaethau a chyfrannu at ddiwylliant dysgu cadarnhaol a chydweithredol.

Cyfleoedd Gyrfaoedd Peirianneg Electroneg a Thrydanol

Mae graddedigion yr MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol mewn sefyllfa dda ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth gwobrwyol. 

Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol: 

  • Peiriannydd darlledu 
  • Peiriannydd rheoli ac offeru  
  • Peiriannydd trydanol 
  • Ymgynghorydd TG 
  • Peiriannydd rhwydwaith 
  • Dadansoddwr systemau 
  • Rhaglennydd amlgyfrwng 
  • Awdur technegol 
  • Peiriannydd gwerthiannau technegol 

Byddwch chi'n barod i weithio mewn sefydliadau sy'n amrywio o fusnesau bach a chanolig arloesol i gwmnïau amlwladol mawr, ar draws sectorau sy'n ddibynnol ar arbenigedd mewn peirianneg electronig a thrydanol. Mae llawer o gyflogwyr yn ymgysylltu'n weithredol â'n myfyrwyr drwy ddiwrnodau sgiliau, gweithdai a digwyddiadau recriwtio, gan roi cyfleoedd gwerthfawr i chi feithrin cysylltiadau a chael gwybodaeth am y diwydiant. 

Mae cwmnïau sy'n ymgysylltu'n aml â’n myfyrwyr, yn eu recriwtio neu'n cydweithio â nhw yn cynnwys Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Arup, Infineon, Magstim, Mesuro, Microsemi, Nissan, SPTS, Thyssenkrupp, UltraElectronics, Würth, Tata Steel, GE, Renishaw, Rohde & Schwarz, Airbus a Silver Wing. Mae cyflogwyr nodedig eraill y mae ein graddedigion wedi cael swyddi gyda nhw yn cynnwys Land Rover, Qinetiq a Horiba Mira, sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth eang o ddiwydiannau sy'n gwerthfawrogi'r sgiliau a ddatblygir yn ystod y rhaglen hon. 

Gyda chysylltiadau cryf â byd diwydiant a chwricwlwm sy'n adlewyrchu heriau peirianneg go iawn, mae'r rhaglen hon yn rhoi'r sylfaen sydd ei hangen arnoch er mwyn dilyn gyrfa gyffrous sy'n creu effaith ym maes peirianneg pŵer, ynni cynaliadwy a thu hwnt. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.