Adfer a Chadwraeth Morol, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Coral

Trosolwg o'r Cwrs

Byddwch yn rhan o rywbeth arloesol gyda gradd MSc Prifysgol Abertawe mewn Adfer a Chadwraeth Morol, a ddyluniwyd i roi i chi’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i fynd i'r afael ag un o heriau mwyaf ein hoes, sef adfer ecosystemau ein cefnforoedd.

Byddwch yn dysgu sut i arwain y ffordd mewn adfer morol ac yn datblygu sgiliau arloesol mewn technegau cadwraeth ac adfer, o ailadeiladu dolydd morwellt i adfer riffiau cwrel a gwella poblogaethau pysgod.

Mae'r rhaglen yn rhoi llu o gyfleoedd i chi gael profiad ymarferol. Gallwch gymryd rhan mewn gwaith maes, ymchwil labordy ac elwa gan leoliadau gwaith ym myd diwydiant gyda'r sefydliadau cadwraeth gorau, gan feithrin sgiliau byd go iawn y mae galw mawr amdanynt ymysg cyflogwyr. Byddwch hefyd yn gallu cysylltu ag arbenigwyr drwy'r prosesau hyn, pan fyddwch yn gallu gweithio ochr yn ochr â llunwyr polisi, cyrff anllywodraethol, gwyddonwyr ac arweinwyr ym myd diwydiant sydd oll yn llunio ymdrechion adfer byd-eang.

Bydd y radd hon yn eich helpu i roi gwyddoniaeth ar waith, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o sut mae adfer yn cyd-fynd â mentrau byd-eang, megis Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystemau a Chyfraith Adfer yr UE.

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gennych yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen  arnoch i greu gyrfa a gaiff effaith. Byddwn yn eich paratoi ar gyfer rolau cyffrous, gan gynnwys swyddi mewn adfer morol, cadwraeth, polisi, ymgynghori amgylcheddol a rheoli morol, sydd oll yn rhan o sector sy'n tyfu'n gyflym.

Gyda'r buddsoddiad byd-eang cynyddol hwn mewn adfer morol, mae'r radd MSc hon yn eich rhoi chi ar flaen y gad o ran yr ymgyrch i ailadeiladu bywyd yn y cefnforoedd - ac mae'r dyfodol yn dibynnu ar wyddonwyr adfer fel chi!  

Pam Adfer a Chadwraeth Morol yn Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe mewn sefyllfa unigryw i arwain yn y maes hwn o ganlyniad i'n lleoliad, ein cyfleusterau a'n harbenigedd mewn adfer a chadwraeth morol. Mae ein lleoliad ar arfordir Cymru'n cynnig mynediad uniongyrchol at amgylcheddau morol ac arfordirol amrywiol, yn ogystal â safleoedd cadwraeth ac adfer. Mae gennym gyfleusterau sy'n arwain y sector ar gyfer hwsmonaeth ddyfrol gynaliadwy ac adfer morwellt ac rydym yn eu defnyddio nhw i ategu ein haddysgu a'n hymchwil.

Mae Campws Parc Singleton yn cynnig labordai arbenigol ychwanegol, ystafelloedd cyfrifiadura a mannau ymchwil, tra mae dysgu yn y maes yn cael ei gyfoethogi drwy ddefnyddio llong ymchwil arfordirol y Brifysgol, y Mary Anning, sy'n eich galluogi i gynnal arolygon ar y môr, asesu cynefinoedd a monitro rhywogaethau. Bydd yr adnoddau hyn yn sicrhau eich bod yn ennill y profiad ymarferol a thechnegol sydd ei angen i gael gyrfaoedd mewn cadwraeth ac adfer morol.

Caiff eich profiad dysgu ei gyfoethogi gan yr amgylchedd naturiol eithriadol o'n cwmpas - a ninnau wedi'n lleoli rhwng Penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Byddwch yn astudio yn un o ranbarthau mwyaf bioamrywiol y DU, lle cewch eich addysgu a'ch goruchwylio gan ymchwilwyr o fri rhyngwladol.

Yn ogystal â'i chyfleusterau o'r radd flaenaf, cydnabyddir ein Hadran y Biowyddorau yn rhyngwladol am ei hymchwil sy'n sbarduno addysgu bioamrywiaeth a bioleg cadwraeth ym Mhrifysgol Abertawe:

  • Dyfarnwyd bod 97% o'n Hallbynnau Ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)
  • Dyfarnwyd bod 100% o'n Hamgylchedd Ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)

Eich Profiad Cadwraeth ac Adfer Morol

Arweinir y rhaglen gan ymchwil, gan ymgorffori'r canfyddiadau gwyddonol diweddaraf yn y cwricwlwm a chan eich annog i ymgymryd â gwyddor cadwraeth forol arloesol.  

Drwy brosiectau ymchwil ar eich pen eich hun ac mewn grwpiau, byddwch yn archwilio materion allweddol megis adferiad rhywogaethau, adsefydlu ecosystemau a pholisi cadwraeth, gan ddefnyddio astudiaethau achos o’r byd go iawn i arwain eich gwaith. 

Gan gydnabod bod dysgu sy'n seiliedig ar waith maes a dysgu drwy brofiad yn ganolog i adfer morol, rydym yn cynnig opsiynau teithiau maes cynhwysol er mwyn sicrhau y gallwch archwilio ecosystemau morol yn lleol ac yn rhyngwladol. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn cyrsiau maes ymdrochol ar y Môr Coch, ym Mhenrhyn Gŵyr ac mewn amgylcheddau arfordirol ac aberol eraill, gan eich galluogi i astudio ecosystemau morol amrywiol mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol-wleidyddol ac amgylcheddol. 

O ystyried rôl gynyddol technoleg mewn cadwraeth forol, mae'r rhaglen yn integreiddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), synhwyro o bell a modelu data amgylcheddol er mwyn cyfoethogi eich dysgu. Mae efelychiadau rhithwir ac estynedig (VR/AR) yn eich galluogi i archwilio ecosystemau tanddwr a senarios adfer o bell, gan wneud gwyddor cadwraeth yn fwy hygyrch.  At hynny, gallwch ddatblygu sgiliau dadansoddi data gan ddefnyddio R, Python a chymwysiadau dysgu peirianyddol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd sy'n cyfuno gwyddor môr, arloesi digidol a datblygu polisïau.

Mae'r rhaglen hefyd yn defnyddio dysgu'n seiliedig ar brosiectau a datrys problemau, gan sicrhau y gallwch gymhwyso eich gwybodaeth mewn senarios cymhleth. Byddwch yn gweithio ar brosiectau mewn grwpiau rhyngddisgyblaethol, pan fyddwch yn gallu dylunio a chyflwyno strategaethau adfer i randdeiliaid, gan feithrin profiad mewn gwneud penderfyniadau ar y cyd. Mae prosiect cadwraeth copa hefyd yn creu cysylltiad uniongyrchol rhwng dysgu academaidd ac ymarfer proffesiynol.

Drwy integreiddio gwaith maes, ymchwil, technoleg, datrys problemau a datblygiad proffesiynol, mae'r radd MSc hon yn cynnig profiad addysgol arloesol a arweinir gan ymchwil ac a sbardunir gan ymarfer. Byddwch yn ymdrochi mewn heriau cadwraeth byd go iawn, gan roi'r ymchwil a'r methodolegau arloesol diweddaraf ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng byd-eang o ran colli cynefinoedd morol a dirywiad rhywogaethau.

Cyfleoedd Cyflogaeth mewn Adfer a Chadwraeth Morol

Mae newidiadau mewn polisi a mentrau ariannu byd-eang yn cynyddu'r angen yn gyflym am wyddonwyr cadwraeth ac adfer hyfforddedig, gyda biliynau o bunnoedd yn cael eu haddo gan lywodraethau i ddiogelu ein cynefinoedd. Mae'r sector preifat hefyd yn cydnabod pwysigrwydd adfer, gyda chorfforaethau mawr yn arwain prosiectau adfer sylweddol.

Wrth i lywodraeth y DU symud tuag at weithredu ei gofynion budd net morol, ac wrth i Lywodraeth Cymru arwain ymdrechion yn y maes, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Morwellt cenedlaethol cyntaf y byd, bydd y galw am wyddonwyr adfer medrus ond yn cynyddu.

Bydd yr MSc yn eich paratoi i arwain ac arloesi ym maes adfer a chadwraeth morol, gan sicrhau bod gennych y sgiliau angenrheidiol i sbarduno atebion llawn effaith sy'n seiliedig ar wyddoniaeth mewn tirwedd fyd-eang sy'n datblygu.  Mae cyfleoedd cyflogaeth posibl i raddedigion yn cynnwys y canlynol:

Sefydliadau Cadwraeth ac Amgylcheddol

  • Cyrff Anllywodraethol Rhyngwladol (WWF, The Nature Conservancy, Project Seagrass, Conservation International)
  • Elusennau Cadwraeth Forol (Marine Conservation Society, Blue Marine Foundation)
  • Prosiectau Adfer Arfordirol a Morol ledled y byd

Rolau mewn Llywodraeth a Pholisi

  • Cyrff Llywodraeth y DU (DEFRA, Natural England, Marine Management Organisation)
  • Llywodraeth Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru, Rolau mewn Polisi Morol a Chynaliadwyedd)
  • Y Comisiwn Ewropeaidd a Chyrff Rheoleiddiol Rhyngwladol (UNEP, IUCN, IPBES)
  • Asiantaethau Rheoli a Gorfodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Ymgynghoriaeth Amgylcheddol a Morol

  • Asesiadau o Effaith Amgylcheddol ac Ymgynghoriaethau Adfer Ecolegol (CEFAS, APEM, Grŵp RPS)
  • Ymgynghoriaeth Hinsawdd a Charbon Glas (Yr Ymddiriedolaeth Garbon, Cwmnïau Ymgynghori ar Gynaliadwyedd)
  • Rheoli Pysgodfeydd a Rolau Ymgynghori ar Adnoddau Morol

Ymchwil a'r Byd Academaidd

  • PhD a Swyddi Ymchwil mewn Cadwraeth, Adfer Morol a Gwyddoniaeth Carbon Glas
  • Rolau mewn Prifysgolion a Sefydliadau Ymchwil (Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy, Labordy Morol Plymouth)
  • Rolau Cyfathrebu Gwyddonol ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Cynaliadwyedd Corfforaethol a Diwydiant

  • Diwydiannau Morol ac Arfordirol sy’n Mabwysiadu Adfer (Gwynt Alltraeth, Dyframaethu, Pysgodfeydd Cynaliadwy)
  • Adrannau Amgylcheddol a Chynaliadwyedd Corfforaethol (cwmnïau fel; Deloitte, Nestlé, Mars, Aviva)
  • Rolau yn y Farchnad Credydau Carbon a Bioamrywiaeth sy'n gysylltiedig ag Ariannu Adfer Morol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.