Trosolwg o'r Cwrs
Bydd y rhaglen MSc hon yn addysgu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i greu a defnyddio data synhwyro o bell cydraniad uchel ar gyfer cymwysiadau ymarferol yn y byd go iawn, gan ddefnyddio synwyryddion a hedfanir ar blatfformau dronau.
Byddwch yn ennill y sgiliau, y profiad a'r wybodaeth i weithredu drôn yn ddiogel ac yn unol â rheoliadau presennol yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant ac asesu hedfan damcaniaethol ac ymarferol. Caiff yr elfen hon ei haddysgu'n rhannol gan ddarparwr hyfforddiant allanol sydd wedi’i achredu gan y CAA, a byddwch yn graddio ag achrediad cymhwysedd ychwanegol peilot o bell UAV/drôn gan y CAA: Tystysgrif Llinell Welediad Gyffredinol (GVC).
Gan adeiladu ar y sgiliau hyn, byddwch yn dysgu'r llif gwaith cyflawn sydd ei angen i nodi a dadansoddi data synhwyro o bell o blatfform drôn, gyda ffocws ar anghenion amgylcheddol. Bydd hyn yn cynnwys yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ar gyfer tynnu delweddau ansawdd uchel, dylunio a chynllunio hediadau, casglu data a phrosesu delweddau.