Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r byd yn wynebu heriau dwys, o wrthdaro i newid yn yr hinsawdd i bwysau byd-eang newydd ac annisgwyl. Ond ochr yn ochr â'r anawsterau hyn mae syniadau newydd, cydweithrediadau a chyfleoedd i gael newid cadarnhaol yn ymddangos. Ni fu erioed yn fwy pwysig deall y dirwedd hon sy'n symud yn gyflym.
Mae ein MA Cysylltiadau Rhyngwladol yn eich helpu chi i wneud synnwyr o'r darlun byd-eang cymhleth hwn. Byddwch yn archwilio'r grymoedd sy'n llywio gwleidyddiaeth ryngwladol heddiw, gan astudio sut mae sefydliadau byd-eang yn ymateb i newid, ac ystyried sut gellid adeiladu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy.
Ar draws un, dwy neu dair blynedd o astudio, byddwch yn ennill yr offer cysyniadol, yr astudiaethau achos manwl a'r sgiliau ymchwil uwch y mae eu hangen i ddadansoddi materion rhyngwladol â hyder. Efallai eich bod am ddyfnhau eich gwybodaeth academaidd neu baratoi am yrfa mewn polisi byd-eang, llywodraethu neu ymchwil, bydd y rhaglen hon yn eich arfogi i ymgysylltu'n feddylgar ac yn feirniadol â'r byd o'ch cwmpas.