Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig), MA

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyrwyr y tu allan i Senedd San Steffan

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r byd yn wynebu heriau dwys, o wrthdaro i newid yn yr hinsawdd i bwysau byd-eang newydd ac annisgwyl. Ond ochr yn ochr â'r anawsterau hyn mae syniadau newydd, cydweithrediadau a chyfleoedd i gael newid cadarnhaol yn ymddangos.  Ni fu erioed yn fwy pwysig i ni ddeall y dirwedd hon sy'n symud yn gyflym.

Mae ein gradd MA Cysylltiadau Rhyngwladol Estynedig yn cynnig yr un sylfaen academaidd gadarn â'r MA safonol, wrth hefyd roi'r cyfle i chi ehangu eich profiad drwy flwyddyn dramor. Byddwch yn archwilio'r grymoedd sy'n llunio gwleidyddiaeth fyd-eang, yn astudio sut mae sefydliadau rhyngwladol yn ymateb i newid ac yn ystyried sut beth fyddai byd mwy cyfiawn, heddychlon a chynaliadwy.

Mae'r rhaglen Estynedig (EMA) yn cynnwys semester pwrpasol yn ein sefydliad partner, The Bush School of Government and Public Service ym Mhrifysgol A&M Texas, lle byddwch yn ymdrochi mewn amgylchedd academaidd newydd a diwylliannol. Byddwch wedi'ch lleoli yn Nhecsas, UDA, a bydd y profiad rhyngwladol hwn yn eich galluogi i ddyfnhau'ch gwybodaeth, adeiladu rhwydweithiau byd-eang a datblygu'r hyder a'r annibyniaeth sy'n mynd law yn llaw ag astudio dramor. Drwy gydol yr amser hwn, cewch eich cefnogi gan y tîm academaidd, y staff Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a Thîm Mynd yn Fyd-eang yn Abertawe, gan sicrhau eich bod yn teimlo eich bod wedi paratoi'n llawn cyn i chi fynd ac y cewch eich cefnogi'n dda pan fyddwch chi yno.

Ar draws y radd gyfan, byddwch yn ennill yr offer cysyniadol, yr astudiaethau achos manwl a'r sgiliau ymchwil uwch y mae eu hangen i ddadansoddi materion rhyngwladol â hyder.  P’un a ydych am ddyfnhau eich gwybodaeth academaidd neu baratoi am yrfa mewn polisi byd-eang, llywodraethu neu ymchwil, bydd y rhaglen hon yn eich paratoi i ymgysylltu'n feddylgar ac yn feirniadol â'r byd o'ch cwmpas.

Pam Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig) yn Abertawe?

Ymysg y 250 o raglenni gorau yn y byd (QS 2025), mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe'n cynnig lle llawn ysbrydoliaeth i astudio gwleidyddiaeth fyd-eang a dysgu gan ymchwilwyr blaenllaw. Gan astudio ar ein campws Parc Singleton hyfryd, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe, byddwch yn astudio mewn lleoliad llawn ysbrydoliaeth wrth y fynedfa i benrhyn Gŵyr. Mae ein hacademyddion yn arweinwyr yn eu meysydd, gan ymchwilio i rai o'r heriau mwyaf dybryd sy'n llywio gwleidyddiaeth fyd-eang heddiw. Mae gan Abertawe enw da rhagorol am faterion rhyngwladol, gydag arbenigedd penodol mewn astudiaethau diogelwch critigol a'r systemau pŵer sy'n arwain newid byd-eang. Mae'r gwaith ymchwil hwn yn llywio ein gwaith addysgu'n uniongyrchol, gan roi mynediad i chi at feddwl arloesol drwy gydol eich gradd.

Bydd eich astudiaethau'n mynd â chi y tu hwnt i'r penawdau. Byddwch yn dadansoddi rôl gweithredwyr dylanwadol mewn gwleidyddiaeth fyd-eang, yn archwilio system ryngwladol sy'n wynebu unfed ganrif ar hugain ansicr ac yn datblygu sgiliau methodolegol uwch i ymchwilio i'r materion sy'n llywio ein byd rhyng-gysylltiedig. Nid dim ond dysgu am wleidyddiaeth fyd-eang y byddwch yn ei wneud, ond byddwch yn dysgu hefyd sut i'w chroesholi.

Mae Abertawe'n gartref i gymuned ôl-raddedig fywiog a chroesawgar lle byddwch yn canfod cymdeithasau myfyrwyr ar gyfer gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol ac athroniaeth, gan gynnwys rhwydweithiau cryf ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ac amryw o grwpiau ymchwil i chi gymryd rhan ynddynt.  Mae'n amgylchedd cefnogol lle gallwch ddyfnhau eich diddordebau, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a gwella eich datblygiad academaidd a phroffesiynol.

Eich Profiad Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig)

Yn ystod eich gradd MA Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig), byddwch yn creu sylfaen gref yn y syniadau, y dadleuon a’r agweddau allweddol sy'n llywio astudio gwleidyddiaeth fyd-eang heddiw. P’un a ydych yn newydd i'r pwnc neu'n parhau o'ch astudiaethau blaenorol, mae rhan gyntaf y rhaglen yn rhoi'r sylfaen gysyniadol a dadansoddol y mae ei hangen arnoch i archwilio cysylltiadau rhyngwladol â hyder.

Fel myfyriwr MA Estynedig (EMA), byddwch yn treulio semester ychwanegol yn astudio ym Mhrifysgol A&M Texas, gan eich cyflwyno i agweddau rhyngwladol ochr yn ochr â'r profiad dysgu craidd yn Abertawe.  Mae'r profiad hwn yn rhoi'r cyfle i chi ymdrochi mewn diwylliant academaidd newydd, cryfhau eich safbwynt byd-eang a datblygu sgiliau annibyniaeth a rhyngddiwylliannol gwerthfawr. Cewch gymorth llawn gan staff academaidd Abertawe a'i thîm Mynd yn Fyd-eang cyn, yn ystod ac ar ôl eich lleoliad.

Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o heriau byd-eang sy'n dylanwadu ar bŵer, gwrthdaro a chydweithredu, wrth hefyd ddatblygu sgiliau ymchwil sy'n hanfodol ar gyfer astudiaethau uwch yn y maes hwn.  Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi materion cymhleth, gwerthuso safbwyntiau cystadleuol a chymhwyso ymagweddau gwahanol er mwyn ymchwilio i gwestiynau rhyngwladol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig)

Mae'r rhaglen estynedig hon ar gyfer myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd academaidd a phroffesiynol. Byddwch yn datblygu sylfaen gref yn namcaniaeth ac ymarfer cysylltiadau rhyngwladol, ynghyd â'r sgiliau ymchwilio, dadansoddi, cyflwyno, meddwl yn feirniadol ac ysgrifennu y mae eu hangen i werthuso a dehongli problemau byd-eang â hyder.

Mae galw mawr am y sgiliau hyn ar draws sawl sector. Mae graddedigion y rhaglen MA Cysylltiadau Rhyngwladol (Estynedig) yn symud ymlaen i gael gyrfaoedd mewn meysydd megis y canlynol:

  • Sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig a rhyngwladol
  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Sefydliadau dyngarol
  • Busnes, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus

P’un a ydych am ddatblygu eich gyrfa bresennol neu gymryd y camau cyntaf i fyd materion byd-eang, mae'r rhaglen yn cynnig platfform cryf ar gyfer eich cam nesaf.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.