Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.
Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:
- Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
- Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
- Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
- Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.
Cyflogadwyedd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Mae'r rhaglen yn cefnogi uchelgeisiau datblygiad gyrfa a chyflogadwyedd myfyrwyr sy'n bwriadu dilyn gyrfa yn y meysydd canlynol:
Y sector cyhoeddus
Bydd graddedigion y rhaglen yn meddu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol i'r gyfraith a datblygu polisi, gweithredu rhaglennol, camau gweithredu gan y llywodraeth (a diwydiant) drwy reoleiddio, trefnu a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyrchfannau posibl i raddedigion yn cynnwys y canlynol:
Y gwasanaeth sifil, llywodraeth ranbarthol, genedlaethol ac is-genedlaethol, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill a gwaith cynghori gwleidyddol a pholisi.
Y sector preifat
Bydd graddedigion y rhaglen yn barod i weithio i gwmnïau'r cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag amrywiaeth o fusnesau byd-eang sy'n ymgymryd â gwaith yn y seiberofod.
Y sector anllywodraethol
Mae asiantaethau anllywodraethol yn rhanddeiliaid sefydledig ym maes seiberddiogelwch a gwrthderfysgaeth. Mae eiriolaeth a lobïo am bolisïau, ymgyrchoedd ac ymyriadau rheng flaen oll yn agweddau ar y sector anllywodraethol ar lefel fyd-eang, ranbarthol, cenedlaethol a lleol. Bydd graddedigion y rhaglen yn meddu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol i ehangder y gwaith a wneir gan y sector anllywodraethol wrth drechu seiberdrosedd a therfysgaeth. Mae cyrchfannau posibl i raddedigion yn cynnwys y canlynol:
sefydliadau anllywodraethol rhyngwladol; sefydliadau anllywodraethol ar lefel ranbarthol neu leol (mae'r sector yn helaeth ac yn cynnig marchnad sylweddol i raddedigion).
Ymchwil ac academia
Mae gwaith ymchwil i seiberdrosedd a therfysgaeth ar-lein yn bryder cynyddol i'r byd academaidd. Bydd myfyrwyr sy'n graddio o'r rhaglen yn chwarae rhan flaenllaw wrth ymdrin â'r materion hyn yn fyd-eang, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Yn ogystal â'r potensial i barhau i astudio ar lefel PhD, bydd graddedigion yn meddu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol i addysgu a gwaith ymchwil yn y maes. Mae cyrchfannau posibl i raddedigion yn cynnwys y canlynol:
Gorfodi'r gyfraith, 'melinau trafod' polisi a sefydliadau addysg uwch.