Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch yn ddelfrydol i chi os ydych chi wedi graddio â gradd mewn cyfrifiadureg, neu os oes gennych brofiad perthnasol o radd israddedig flaenorol. Mae'r radd MSc hon yn darparu lefel newydd o fanylder gyda modiwlau arbenigol.
Bydd gennych chi'r cyfle i ddewis modiwlau o amrywiaeth eang o bynciau'n ymwneud â chyfrifiadureg. Mae'r rhain yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, cryptoarian a systemau gweithredu, data mawr, a diogelwch rhwydweithiau. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y dysgu'n eang, ac yna ym mlwyddyn dau byddwch yn ymgymryd â modiwl prosiect sylweddol, gan sicrhau eich bod chi mewn sefyllfa dda pan fyddwch chi'n chwilio am gyflogaeth.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth fanwl sydd eu hangen arnoch i ragori yn y maes, boed drwy astudiaethau pellach, ymchwil neu yrfa wobrwyol ym maes cyfrifiadureg.