Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd MSc Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn darparu sylfaen gynhwysfawr yn y cysyniadau a'r technolegau sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu a chymhwyso deallusrwydd artiffisial mewn cyd-destunau amrywiol.
Mae'r cwrs 16 mis hwn, sy'n dechrau ym mis Ionawr, yn cynnwys egwyddorion, dulliau a systemau cyfrifiadol, sy'n berthnasol i gymwysiadau’r byd go iawn. Pwysleisir y sylfeini mathemategol, sgiliau rhaglennu a'r meddwl yn feirniadol sydd eu hangen ar gyfer deallusrwydd artiffisial.
Trwy gydol y cwrs byddwch yn archwilio pynciau deallusrwydd artiffisial clasurol, fel dysgu peirianyddol, delweddu, optimeiddio a data mawr, yn ogystal â dulliau cyfoes sy’n cynnwys prosesu iaith naturiol a deallusrwydd artiffisial symbolaidd.
Yn ystod yr haf byddwch yn cymhwyso eich gwybodaeth ar y pynciau uchod i gyfarch problem byd go iawn trwy fodiwl prosiect cydweithredol.