Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein gradd MSc mewn Gwyddor Data yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cysyniadau a thechnolegau gwyddor data ar gyfer echdynnu gwybodaeth ac adeiladu gwybodaeth o ddata.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar dair thema graidd sef cloddio data, dysgu peirianyddol, a delweddu.
Byddwch yn astudio egwyddorion, dulliau a systemau cyfrifiadurol ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau byd go iawn sy'n gofyn am sylfeini mathemategol, sgiliau rhaglennu, meddwl beirniadol a dyfeisgarwch.
Gyda setiau data mawr bellach ar gael ar draws bron pob sector diwydiant, mae galw cynyddol am dechnolegau newydd arloesol a gwyddonwyr data medrus.
Sylwer, nid yw’r MSc mewn Gwyddor Data , yn briodol ar gyfer y rhai hynny heb radd israddedig mewn Cyfrifiadureg (neu gyfwerth - gweler y gofynion mynediad isod). Gweler Gwyddor Data Gymhwysol, MSc, lle na fydd angen gradd israddedig mewn Cyfrifiadureg neu Fathemateg (neu gyfwerth) arnoch.