Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
- Ysgrifennu academaidd
- Mathemateg ac ystadegau
- Meddwl critigol
- Rheoli amser
- Sgiliau digidol
- Sgiliau cyflwyno
- Cymryd nodiadau
- Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
- Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mentor Academaidd Personol:
Neilltuir Mentor Academaidd i chi o blith staff academaidd cymwys yn yr Ysgol Feddygaeth, neu efallai o blith staff clinigol o Fyrddau Iechyd yn achos GEM a PA.
Mentoriaid Academaidd Personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf wrth astudio yn yr Ysgol Feddygaeth a gallant ddarparu cymorth a chyngor ar amrywiaeth o faterion a allai effeithio ar eich lles, eich presenoldeb a'ch cynnydd addysgol. Gallai Mentoriaid Academaidd Personol hefyd eich helpu gyda'ch cynllunio datblygu personol a chyngor gyrfaoedd. Gall eich mentor hefyd eich cyfeirio at y gwasanaeth Lles a gwasanaethau cymorth eraill, fel y bo'n briodol.
Swyddfa Wybodaeth yr Ysgol Feddygaeth:
Mae'n tîm o weinyddwyr a chydlynwyr gwybodaeth myfyrwyr wrth law i roi cymorth gyda'ch ymholiadau academaidd a'ch cyfeirio at wasanaethau ychwanegol pan fydd angen.