Trosolwg o'r Cwrs
A ydych chi'n raddedig gyda gradd mewn bioleg celloedd a moleciwlaidd, geneteg a biocemeg, biocemeg, biocemeg feddygol, fferyllol, peirianneg feddygol neu ffiseg? A ydych chi'n dymuno defnyddio'r wybodaeth hon ym meysydd meddygol neu wyddor bywyd? Gallwch wella'ch rhagolygon gyrfa drwy astudio Nanofeddygaeth, gan ryngwynebu gyda meddygaeth glinigol, ferylleg, meddygaeth adfywiol a nano(geno)docsicoleg.
Mae galwadau ac ymwybyddiaeth gynyddol o gymwysiadau nanodechnoleg ym maes Meddygaeth wedi arwain at ddatblygiad maes Nanofeddygaeth. Gan fanteisio ar y Ganolfan NanoIechyd (CNH) gwerth £22 miliwn, mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno gan grŵp o wyddonwyr ymchwil blaenllaw yn yr ysgol feddygaeth orau o ran amgylchedd ymchwil y DU. Ar y cyd â chlinigwyr, arweinwyr diwydiannol ac arbenigwyr o ran arloesedd ymchwil a throsglwyddo technoleg, mae'r cwrs yn cynnig cyfle i astudio a chwarae rôl yn y cyfraniadau sylweddol y mae nanodechnoleg yn eu cynnig o ran gwella diagnosis, trin ac atal clefydau.
Mae'n addas i unrhyw un â gradd sy'n gysylltiedig â'r gwyddorau bywyd sy'n anelu at gyflogaeth yn y diwydiant fferyllol neu am yrfa ymchwil drwy PhD, a bydd myfyrwyr yn mynd i'r afael ag arloesi â chymorth nanodechnoleg ym maes meddygaeth foleciwlaidd, datblygu cyffuriau, rhoi cyffuriau uwch a delweddu/diagnosteg.Mae cynhyrchio fferyllol a therapiwteg uwch wedi'u gwreiddio ar draws y themâu hyn. Mae gennym ddau faes ffocws, sef meddygaeth adfywiol a nano-(geno)docsicoleg sy'n gysylltiedig â themâu craidd yr Ysgol. Mae'r meysydd hyn wedi'u hatgyfnerthu gan arbenigedd peirianneg a gwyddoniaeth, gan arwain at brosiect ymchwil labordy amlddisgyblaethol wedi'i seilio ar fodiwlau ystadegau/gwybodeg ymrwymedig a dyluniad/moeseg ymchwil.