Ymarfer Diabetes, MSc / PGDip / PGCert

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Diabetes Students

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol â diddordeb arbenigol mewn diabetes neu os hoffech chi ddatblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau yn y maes hwn, bydd ein rhaglen MSc Ymarfer Diabetes bwrpasol yn cryfhau'ch ddealltwriaeth a'ch sgiliau clinigol. 

Dyma raglen dysgu o bell hyblyg sydd wedi'i llunio i gyd-fynd â'ch bywyd gwaith prysur. Bydd ein cwricwlwm amlddisgyblaethol yn cyfuno dysgu ar-lein o bell â sgiliau ymarferol a gyflwynir mewn dau weithdy preswyl pum niwrnod o hyd.  

Bydd y rhaglen unigryw hon, a ddyluniwyd ag anghenion nyrsys diabetes arbenigol y dyfodol mewn cof, yn rhoi gwybodaeth sylfaenol ac uwch mewn sgiliau clinigol, profiad ac ymddygiad proffesiynol i chi, a bydd yn mynd i'r afael â bylchau yn yr wybodaeth honno i fynd i'r afael ag anghenion iechyd a gofal pobl â diabetes. Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o driniaethau diabetes, technolegau perthnasol a sefyllfaoedd gwahanol a allai effeithio ar reoli'r clefyd.

Pam Ymarfer Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Ymysg y 5 gorau ar gyfer Ansawdd Ymchwil Cyffredinol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021)
  • Mae dysgu ar-lein yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol prysur i gydbwyso gweithio â datblygiad gyrfaol.
  • Nod y rhaglen yw bodloni anghenion timau diabetes amlddisgyblaethol mewn gofal Sylfaenol ac Eilaidd.

Cyflwynir ein rhaglen MSc Ymarfer Diabetes gan arbenigwyr clinigol yn y maes. Caiff ei haddysgu yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, hyb dysgu amlddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol ac ymchwil ac arloesi, a osodir yn gyson ymhlith y darparwyr addysg iechyd proffesiynol a'r gwyddorau bywyd gorau yn y DU.

Eich Profiad Ymarfer Diabetes

Dyluniwyd ein cwrs dysgu o bell i gyd-fynd â'ch bywyd gwaith prysur drwy gynnwys cymysgedd o ddarlithoedd sy’n seiliedig ar wybodaeth a gweithdai ymarferol. Caiff eich dysgu ei gyfoethogi gan ddeunyddiau addysgu rhyngweithiol, senarios dysgu'n seiliedig ar broblemau ac astudiaethau achos clinigol, ynghyd â gweithgareddau grŵp megis dadleuon i hybu dysgu gan gyd-fyfyrwyr. Byddwch hefyd yn gallu dewis rhwng traethawd hir neu bortffolio gweithle, a gaiff ei gwblhau drwy gydol hyd y rhaglen.

Yn ogystal â'ch dysgu ar-lein, byddwch yn cymryd rhan mewn dau weithdy preswyl wythnos o hyd lle byddwch yn rhyngweithio â chydweithwyr o amrywiaeth o arbenigeddau, gan elwa o gorff academaidd amrywiol ac amlddisgyblaethol a sesiynau ymarferol rhyngweithiol i gryfhau eich sgiliau ymarferol a'ch profiad.

Drwy gydol eich dysgu cewch eich annog i ymgysylltu'n feirniadol â'r heriau iechyd byd-eang sy'n gysylltiedig â diabetes, gan archwilio amrywiaeth gymdeithasol, cydraddoldeb iechyd, ffactorau economaidd-gymdeithasol a chyd-destun diwylliannol ym meysydd rheoli clinigol a darparu gwasanaethau. Caiff ein cwricwlwm ei ategu gan brofiadau pobl sy'n byw gyda diabetes, gan gynnwys eu defnydd o wasanaethau a thriniaethau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg, gan sicrhau eich bod chi'n ystyriol o amrywiaeth y poblogaethau y byddwch chi'n eu gwasanaethu. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Ymarfer Diabetes

Bydd graddedigion ein rhaglen MSc Ymarfer Diabetes yn datblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad uwch sydd eu hangen er mwyn dilyn cyfleoedd datblygu gyrfa yn eu rolau gofal iechyd presennol.

Mae ein cwrs hefyd yn gam gwych tuag at astudiaethau pellach megis Meddygaeth i Raddedigion, Astudiaethau Cydymaith Meddygol ac Ymchwil. Mae graddedigion hefyd yn barod ar gyfer rolau arbenigol ym myd diwydiant gan gynnwys cynhyrchion fferyllol, Biotechnoleg a'r sectorau rheoleiddiol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.