Trosolwg o'r Cwrs
Bydd y radd hon yn eich dysgu sut i ddefnyddio technegau peirianneg i ddeall systemau biofeddygol neu i ddatblygu dyfeisiau sy'n rhyngweithio gyda systemau biofeddygol. Mae hyn yn berthnasol i raddfa fawr poblogaethau neu'r corff dynol yn ei gyfanrwydd, i raddfeydd llai celloedd neu hyd yn oed nanoronynnau. Rydym yn darparu dwy ffrwd cwrs y gellir eu dewis gan y myfyrwyr:
- Biofecaneg; Gyda phwyslais ar fecaneg biosolidau, deinameg biohylifau a dylunio dyfeisiau meddygol.
- Bioddeunyddiau; Gyda phwyslais ar ddatblygu bioddeunyddiau ar raddfa micro a nano a rhyngweithio â nhw.
Bydd y ddwy ffrwd yn darparu'r sgiliau dadansoddi ac arbrofi cysylltiedig i'r myfyrwyr er mwyn iddynt fynd i'r afael â phroblemau nodweddiadol a geir mewn peirianneg fiofeddygol. Bydd y myfyriwr yn cael ei hyfforddi drwy brofiadau ymarferol ar gyfer caffael data a thrwy dechnegau dadansoddi data uwch er mwyn astudio’r data a gesglir.
Mae'r rhaglen MSc yn darparu profiad ôl-raddedig gwych i fyfyrwyr sydd â gradd israddedig ym maes Peirianneg Fiofeddygol ond mae hefyd yn gyfle gwych i'r rhai sydd â graddau israddedig mewn meysydd peirianneg eraill neu ddisgyblaethau cysylltiedig i’w astudio fel cwrs trosi. Naill ffordd neu'r llall, bydd y cwrs hwn yn eich gosod ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa fel peirianwr yn y gwyddorau bywyd neu'r diwydiant dyfeisiau meddygol.