Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MSc mewn Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch yn gyson yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i yrfa ym maes chwaraeon perfformiad uchel neu i ddilyn graddau ymchwil doethurol (PhD).

Yn y bôn, mae ein rhaglen gyfunol yn galluogi myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth ddamcaniaethol sylfaenol a'r sgiliau ymarferol ar draws meysydd gwyddor perfformiad. Byddwch yn datblygu sgiliau craidd ar draws gwyddor data gymhwysol, gwyddor hyfforddi, gwyddor adfer, strategaethau diwrnod cystadleuaeth, cynllunio perfformiad a gwaith diagnostig labordy a maes uwch.

Yn unigryw, mae ein gradd MSc yn cynnwys lleoliad gwaith ym myd diwydiant am 12 mis, mewn cydweithrediad uniongyrchol ag un o'n partneriaid diwydiannol o fri mewn pêl-droed, rygbi, nofio, tennis, chwaraeon moduro elît a meysydd dadansoddeg data gymhwysol. Mae pob lleoliad gwaith yn cael ei oruchwylio ar y cyd â mentor yn y diwydiant a goruchwyliwr academaidd, gan sicrhau datblygiad personol a phroffesiynol strwythuredig, myfyrio a dadansoddi beirniadol parhaus ac integreiddio priodol ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd.

Byddwch yn ennill profiad sylweddol ym myd diwydiant, sgiliau cyflogadwyedd uwch a gallu proffesiynol a'r hyder gofynnol i weithio'n effeithiol mewn sefydliadau perfformiad uchel.

O fis Medi 2027 ymlaen, bydd gennych y dewis o ddilyn llwybr Dadansoddeg Data Perfformiad Chwaraeon amgen. Mae'r llwybr hwn yn eich paratoi'n benodol ar gyfer gyrfaoedd sy'n canolbwyntio ar ddata mewn amgylcheddau gwyddor perfformiad chwaraeon trwy ganolbwyntio ar yr egwyddorion a'r dulliau sy'n sail i arferion effeithiol sy'n seiliedig ar ddata mewn chwaraeon perfformiad. Drwy gydol y modiwl, byddwch yn ymgysylltu â senarios a setiau data go iawn gan bartneriaid diwydiant dibynadwy sy'n ymwneud â chwestiynau perfformiad perthnasol ac astudiaethau achos penodol. Bydd ein graddedigion wedi'u cyfarparu'n gynhwysfawr ar gyfer rolau sy'n canolbwyntio ar ddata sy'n dod i'r amlwg o fewn sefydliadau chwaraeon perfformiad uchel.

Pam Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch yn Abertawe?

  • Ymysg y 51-100 rhaglen orau o'i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • 100% o ran arwain y ffordd yn fyd-eang ac effaith ragorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Mae ein cwrs wedi'i wreiddio mewn digwyddiadau chwaraeon mawr, sy'n golygu y bydd yr heriau'n rhai go iawn y gellir eu cymhwyso i’ch astudiaethau. Bydd ein modiwlau'n rhoi pecyn cymorth o atebion i fyfyrwyr eu cymhwyso a'u datblygu'n barhaus fel ymarferwyr.

Mae ein rhaglen yn adeiladu ar arbenigedd staff a phartneriaethau i gyflwyno rhaglen sy'n sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau damcaniaethol ac ymarferol allweddol sydd eu hangen i weithio mewn chwaraeon perfformiad uchel. Mae elfennau sylfaenol ein cwrs wedi'u gwreiddio mewn digwyddiadau chwaraeon mawr ac amrywiaeth o faterion perfformiad allweddol, sy’n golygu y byddwch yn wynebu heriau o’r byd go iawn ac yn cymhwyso’r wybodaeth a ddatblygwch i’ch astudiaethau, gan sicrhau eich bod yn hyderus ac yn barod i ymdrin â sefyllfaoedd go iawn ym myd chwaraeon, gan fanteisio ar yr hyn a ddysgoch mewn ffyrdd ymarferol ac ystyrlon. 

Drwy gydol eich amser ar y rhaglen, bydd hefyd gennych fynediad unigryw at ein labordai o’r radd flaenaf, ein cyfleusterau chwaraeon a’n technoleg ac offer mesur. Wrth i chi symud ymlaen, bydd eich diddordebau a'ch galluoedd yn cael eu cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar uwch, gan ddysgu sgiliau sy'n hollbwysig i sicrhau cyflogaeth.

Eich Profiad Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch

Lluniwyd ein rhaglen MSc ar y cyd ag arweinwyr diwydiant ac ymarferwyr ym myd diwydiant, sy'n cynnig cyfle unigryw i chi ddysgu gan academyddion blaenllaw mewn cyfleusterau a labordai o'r radd flaenaf, wrth hefyd gael eich mentora gan ymarferwyr chwaraeon perfformiad uchel.

Rydych chi a'r cyflogwr wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud ar ein rhaglen. Mae ein hymagwedd at eich profiad fel myfyriwr yn canolbwyntio ar gyfoethogi eich profiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau eich bod yn datblygu ar y cwrs a’n bod ni’n diwallu eich anghenion. Cewch eich annog i weithio ar y cyd mewn trafodaethau grŵp ac wrth ymgymryd â dysgu sy’n seiliedig ar senarios drwy gydol eich astudiaethau. At hynny, cynhelir sesiynau cyfranogiad myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi leisio'ch barn.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch

Mae ein rhaglen MSc wedi datblygu enw da am raddedigion yn symud ymlaen i gyflogaeth neu astudiaethau pellach, gyda chlybiau a sefydliadau blaenllaw yn y diwydiant yn gofyn am ein graddedigion oherwydd enw da cynyddol y rhaglen hon.

Mae’r rolau canlynol ymhlith y rhai y mae graddedigion wedi ymgymryd â nhw:

  • Gwyddonydd Perfformiad
  • Gwyddonydd Chwaraeon
  • Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru
  • Gwyddonydd Data
  • PhD 
  • Hunan‑gyflogaeth

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.