Trosolwg o'r Cwrs
Mae Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol yn arbenigedd hanfodol sy'n tyfu'n gyflym yn y DU a ledled y byd.
Gyda disgwyliad oes hwy daw risg fwy o gyflyrau iechyd cronig, a chyda phoblogaeth sy'n heneiddio fwyfwy, mae'r GIG a darparwyr gofal iechyd eraill yn cael eu rhoi, a byddant yn parhau i gael eu rhoi, o dan straen cynyddol oherwydd baich rheoli'r cyflyrau iechyd hirdymor hyn. Mae rôl arwyddocaol Ffisiolegwyr Ymarfer Corff Clinigol yn cael ei chydnabod fwyfwy, ac mae'r galw am setiau sgiliau yn y maes hwn yn fwy nag erioed.
Bydd ein cwrs MSc Ffisioleg Ymarfer Glinigol yn eich arfogi â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth feirniadol, sy'n seiliedig ar ymchwil, a'r ystod amrywiol o sgiliau cymhwysol ac ymarferol, sy'n ofynnol i weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Mae ein rhaglen yn cyfuno damcaniaeth wyddonol ag ymarfer yn y byd go iawn. Drwy gydol ein rhaglen, byddwch yn dysgu sut i gynllunio, cynnal a dehongli amrywiaeth o asesiadau iechyd a ffitrwydd sy'n benodol i glefydau; byddwch yn archwilio sut i gynllunio a chyflwyno ymyriadau ymarfer corff a gweithgarwch corfforol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a sut i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau i hyrwyddo newid ymddygiad ystyrlon.
Mae ein gradd MSc wedi'i hachredu gan yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd (AHCS). Bydd myfyrwyr sy'n pasio pob modiwl, gan gynnwys yr asesiad clinigol o gymwyseddau, yn ogystal â 140 awr o leoliad clinigol, yn gymwys i gofrestru fel Ffisiolegydd Ymarfer Clinigol gyda'r AHCS.
