Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSc mewn Peirianneg Ddeunyddiau yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o'r maes, ac amrywiaeth o alluoedd sydd eu hangen i fodloni gofynion y diwydiant deunyddiau rhyngwladol.
Mae'r cwrs MSc hwn wedi'i achredu gan y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3) ac wedi'i lywio gan arbnigedd ymchwil o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe ym maes deunyddiau ar gyfer cymwysiadau awyrofod a thechnoleg dur.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.
Mae cymorth ac arweiniad ar gael i helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith ond nid yw hyn wedi'i warantu. Ffioedd cwrs yr ail flwyddyn yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Gweler rhagor o fanylion am Sut i Gyflwyno Cais am yr MSc gyda Diwydiant isod.