Myfyrwyr o'r DU/UE
Gellir talu ffioedd dysgu yn llawn adeg cofrestru, ond rydym hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr dalu mewn 3 rhandaliad (33% ym mis Tachwedd, 33% ym mis Chwefror a 34% ym mis Mai).
Nodwch na fydd unrhyw ysgoloriaethau na bwrsariaethau y gallech fod wedi'u cael yn cyfrif tuag at dalu eich rhandaliad cyntaf.
Os byddwch yn dewis manteisio ar yr opsiwn rhandaliadau, gofynnir i chi gyflwyno mandad debyd uniongyrchol dilys adeg cofrestru neu cyn hynny. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalennau Sut i Dalu eich Ffioedd - Ôl-raddedigion o'r DU/UE.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae'n rhaid i’r holl fyfyrwyr rhyngwladol dalu blaendal i gadarnhau eu lle a chael datganiad CAS. Dim ond os bydd y Llywodraeth yn gwrthod dyfarnu fisa ar gyfer y DU, neu os bydd myfyriwr yn methu â bodloni gofynion mynediad y Brifysgol, y caiff y blaendal hwn ei ad-dalu. Bydd y blaendal hwn yn cyfrif tuag at dalu ffioedd dysgu ac nid yw'n swm ychwanegol a godir ar ben y ffi ddysgu a ddyfynnir mewn llythyrau cynnig.
Gellir talu gweddill y ffioedd dysgu naill ai'n llawn adeg cofrestru neu cyn hynny neu gellir eu talu mewn dau randaliad. Rhaid talu 50% o'ch ffioedd dysgu adeg cofrestru neu cyn hynny a dylid talu'r 50% sy'n weddill erbyn mis Chwefror fan bellaf.
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, bydd gofyn i chi dalu blaendal cyn y gallwn roi rhif CAS i chi.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalennau Sut i Dalu eich Ffioedd - Rhyngwladol.