Lefel y Dyfarniad (Cyfundrefn Enwi)
|
MSc trwy Ymchwil
|
Teitl y Rhaglen
|
Data, Modelu a Deallusrwydd Artiffisial
|
Arweinwyr y Rhaglen
|
Yr Athro Wulf Dettmer a’r Athro Gibin Powathil
|
Corff Dyfarnu
|
Prifysgol Abertawe
|
Cyfadran
|
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
|
Maes Pwnc
|
Cyfrifiadureg / Mathemateg
|
Amlder Derbyn
|
Hydref, Ionawr, Ebrill, Mehefin
|
Lleoliad
|
Campws Singleton a Champws y Bae
|
Dull Astudio
|
Llawn-amser / Rhan-amser
|
Hyd/Ymgeisyddiaeth
|
Blwyddyn / 2 Flynedd
|
Lefel FHEQ
|
7
|
Pwyntiau Cyfeirio Allanol
|
Disgfrifwyr Cymhwyster QAA ar gyfer FHEQ Lefel 7
|
Rheoliadau
|
Gradd Meistr trwy Ymchwil
|
Achrediad Cyrff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddiol
|
Amherthnasol
|
Dyfarniad Ymadael
|
Amherthnasol
|
Iaith Astudio
|
Saesneg
|
Mae’r Fanyleb Rhaglen hon yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd gyfredol ac mae’n darparu cynnwys dangosol er gwybodaeth. Bydd y Brifysgol yn ceisio cyflwyno pob cwrs yn unol â’r disgrifiadau a nodir ar dudalennau gwe perthnasol y cwrs ar adeg cyflwyno’r cais. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd yna sefyllfaoedd pan fydd yn ddymunol neu’n angenrheidiol i’r Brifysgol newid darpariaeth y cwrs, naill ai cyn neu ar ôl cofrestru.
Crynodeb o’r Rhaglen
Bydd y cwrs hwn, sef MSc trwy Ymchwil mewn Data, Modelu a Deallusrwydd yn Abertawe, yn eich galluogi i gynnal prosiect ymchwil a gaiff ei arwain gan eich diddordebau chi eich hun. Mae’n gymhwyster uchel iawn ei fri a all arwain at yrfa yn y byd academaidd neu gwmpas ehangach ar gyfer gwaith mewn meysydd fel addysg, y llywodraeth neu’r sector preifat. Bydd traethawd ymchwil 40,000 o eiriau yn cael ei gyflwyno i’w asesu, a bydd yn dangos ymchwil wreiddiol gyda chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Archwilir y radd Meistr yn dilyn archwiliad llafar yn ymwneud â’r traethawd ymchwil (arholiad viva voce neu viva). Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil ar gyfer gwaith lefel uchel ac mae rhaglenni sgiliau a rhaglenni hyfforddi ar gael ar y campws i gael cymorth pellach.
Nodau’r Rhaglen
Bydd y rhaglen Meistr hon yn darparu’r canlynol:
- Cyfle i gynnal ymchwil ôl-radd o ansawdd uchel mewn amgylchedd ymchwil sydd ar flaen y gad.
- Y sgiliau allweddol sy’n angenrheidiol i gynnal ymchwil uwch academaidd ac anacademaidd, yn cynnwys dadansoddi data ansoddol a meintiol.
- Sgiliau uwch o ran meddwl yn feirniadol, chwilfrydedd deallusol a barn annibynnol.
Strwythur y Rhaglen
Mae’r rhaglen yn cynnwys tair elfen allweddol, sef:
- Mynediad a chadarnhau ymgeisyddiaeth
- Prif gorff ymchwil
- Traethawd ymchwil ac arholiad viva voce
Mae’r rhaglen yn cynnwys cynnal prosiect ymchwil gwreiddiol a fydd yn para blwyddyn yn llawn-amser (2 flynedd yn rhan-amser).
Asesu
Caiff myfyrwyr y radd Meistr trwy Ymchwil mewn Data, Modelu a Deallusrwydd Artiffisial eu harholi mewn dwy ran.
Traethawd ymchwil yw’r rhan gyntaf, sef gwaith gwreiddiol a fydd yn cynrychioli dulliau a chanlyniadau’r prosiect ymchwil. Y terfyn geiriau yw 40,000 o eiriau ar gyfer y prif destun. Nid yw’r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os cynhwysir rhai), troednodiadau hanfodol, datganiadau a rhannau rhagarweiniol, y llyfryddiaeth na’r mynegai.
Arholiad llafar (viva voce) yw’r ail ran.
Goruchwyliaeth a Chymorth
Bydd y myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan dîm goruchwylio. Pan fo’n briodol, bydd staff o Golegau/Ysgolion eraill yn y Brifysgol, oddi allan i’r Adran/Ysgol ‘gartref’ (Colegau/Ysgolion eraill), yn cyfrannu at feysydd ymchwil cytras. Hefyd, efallai y ceir goruchwylwyr a fydd yn perthyn i bartner diwydiannol.
Fel rheol, y Prif Oruchwylydd / Goruchwylydd Cyntaf fydd y prif gyswllt drwy gydol y siwrnai ymchwil. Y goruchwylydd hwn fydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros oruchwyliaeth academaidd. Bydd cyfraniad academaidd yr Ail Oruchwylydd yn amrywio o achos i achos. Yn aml, prif rôl yr Ail Oruchwylydd fydd gweithredu fel cyswllt cyntaf pan na fo’r Prif Oruchwylydd / Goruchwylydd Cyntaf ar gael. Hefyd, gall y tîm goruchwylio gynnwys goruchwylydd o ddiwydiant neu faes ymarfer proffesiynol penodol, i ategu’r ymchwil. Gellir defnyddio goruchwylwyr allanol o Brifysgolion eraill hefyd.
Bydd y prif oruchwylydd yn cynnig cymorth bugeiliol. Os bydd angen, bydd y prif oruchwylydd yn cyfeirio’r myfyriwr at ffynonellau cymorth eraill (e.e. Llesiant, Anabledd, Money@Campuslife, TG, y Llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr, Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, Academi Cyflogadwyedd Abertawe).
Deilliannau Dysgu’r Rhaglen
Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, dylai ymchwilwyr doethurol allu gwneud y canlynol:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- Myfyrio’n greadigol ar y sylfaen wybodaeth bresennol, a hefyd ar broblemau cyfredol a/neu wybodaeth newydd, yn y meysydd Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial.
- Dangos gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o’r modd y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi sefydledig i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth.
- Rhoi sgiliau ymchwil, methodolegau a damcaniaethau ar waith mewn ymchwil.
- Creu, dehongli a dadansoddi gwybodaeth yn y maes astudio penodol trwy gyfrwng ymchwil wreiddiol.
Agweddau a gwerthoedd
- Mynd i’r afael â thasgau ymchwil a gwneud penderfyniadau cytbwys heb lawer o arweiniad.
- Rhoi egwyddorion moesegol cadarn ar waith mewn ymchwil, gan roi sylw dyladwy i uniondeb pobl a chan gyd-fynd â chodau ymddygiad proffesiynol.
- Dangos hunanymwybyddiaeth o amrywiaeth unigolion a diwylliannau, a’r effaith ddwyochrog mewn rhyngweithio cymdeithasol rhwng yr hunan ac eraill wrth gynnal ymchwil sy’n ymwneud â phobl.
Sgiliau Ymchwil
- Dangos hunangyfeiriad a gwreiddioldeb wrth fynd i’r afael â phroblemau ac wrth ddatrys problemau, a gweithredu ar eich liwt eich hun wrth gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu lefel gyfwerth.
- Trin a datrys materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau cadarn yn absenoldeb data cyflawn, a chyfleu’r casgliadau’n glir gerbron cynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol fel ei gilydd.
- Gwerthuso a gweithredu technegau ymchwil perthnasol yn y maes Modelu, Data a Deallusrwydd.
- Gweithredu methodolegau ymchwil a mynd ati i lunio beirniadaeth arnynt; a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
- Gweithio mewn grwpiau, gan gyflwyno casgliadau a chan adlewyrchu safbwyntiau gwahanol.
- Rhoi sgiliau ymchwil annibynnol ar waith.
- Canfod gwybodaeth a’i defnyddio mewn ymarfer ymchwil.
- Llunio a gweithredu prosiect ymchwil.
Sgiliau a Chymwyseddau
- Arddangos y priodweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, yn cynnwys arfer cyfrifoldeb personol a blaengarwch mewn sefyllfaoedd cymhleth.
- Arfer blaengarwch a chyfrifoldeb personol.
- Y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy.
- Y gallu i ddysgu’n annibynnol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
Monitro Cynnydd
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro yn unol â rheoliadau Prifysgol Abertawe. Yn ystod y rhaglen, disgwylir i’r myfyriwr gyfarfod yn rheolaidd â’i oruchwylwyr. Yn y mwyafrif o’r cyfarfodydd hyn, mae’n debygol y bydd cynnydd y myfyriwr yn cael ei fonitro mewn modd anffurfiol, a hefyd bydd presenoldeb y myfyriwr yn cael ei wirio. Yn ddelfrydol, dylid cofnodi’r cyfarfodydd ar y system ar-lein. Mae’n ofynnol cynnal pedwar cyfarfod goruchwylio ffurfiol fan leiaf bob blwyddyn; bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu Ôl-raddedig mewn perthynas â dau o’r cyfarfodydd hyn. Yn ystod y cyfarfodydd goruchwylio, bydd cynnydd y myfyriwr yn cael ei drafod a’i gofnodi’n ffurfiol ar y system ar-lein.
Datblygu Dysgu
Mae’r Brifysgol yn cynnig hyfforddiant a datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Doethurol.
Rhennir Fframwaith Hyfforddiant Ymchwil Ôl-radd Prifysgol Abertawe yn wahanol adrannau, er mwyn i fyfyrwyr allu canfod a phennu cyrsiau addas sy’n cyd-fynd â’u diddordebau a chyfnod eu hymgeisyddiaeth.
Ceir fframwaith hyfforddi sy’n cynnwys, er enghraifft, feysydd yn ymwneud â Rheoli Gwybodaeth a Data, Cyflwyno ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Arweinyddiaeth a gweithio gydag eraill, Uniondeb Diogelwch a Moeseg, Effaith a Masnacheiddio ac Addysgu ac Arddangos. Hefyd, ceir gwahanol fathau o gymorth yn ymwneud â meysydd fel anghenion hyfforddi, chwilio am lenyddiaeth, cynnal ymchwil, ysgrifennu ymchwil, addysgu, ymgeisio am grantiau a dyfarniadau, cyfathrebu ymchwil a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Darperir amrywiaeth o seminarau ymchwil a sesiynau datblygu sgiliau yn yr Adran ac ar draws y Brifysgol. Bwriad y rhain yw sicrhau bod myfyrwyr yn cadw mewn cysylltiad ag amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau na’u pynciau ymchwil eu hunain, er mwyn ysgogi syniadau wrth drafod ag eraill ac er mwyn rhoi cyfleoedd iddynt amddiffyn eu traethawd ymchwil ar lafar a nodi beirniadaeth bosibl. Yn ogystal, mae’r Adran yn datblygu diwylliant ymchwil a fydd yn cyd-fynd â gweledigaeth y Brifysgol a bydd yn cysylltu â mentrau allweddol a gyflwynir o dan adain Academïau’r Brifysgol.
Amgylchedd Ymchwil
Mae amgylchedd ymchwil Prifysgol Abertawe yn cyfuno arloesedd a chyfleusterau rhagorol er mwyn darparu rhywle lle gall ymchwil amlddisgyblaethol ffynnu. Mae ein hamgylchedd ymchwil yn cwmpasu pob agwedd ar y cylch bywyd ymchwil, gyda grantiau mewnol a chymorth ar gyfer cyllid allanol a galluogi effaith ymchwil y tu hwnt i’r byd academaidd.
Fel Prifysgol, rydym yn falch iawn o’n henw da am ymchwil ragorol, yn ogystal â safon, ymroddiad, proffesiynoldeb, cydweithrediad ac ymgysylltiad ein cymuned ymchwil. Rydym yn deall bod yn rhaid i uniondeb fod yn nodwedd hanfodol o bob agwedd ar ymchwil; a bod yn rhaid i ni, fel Prifysgol yr ymddiriedir ynddi i gynnal ymchwil, ddangos yn glir ac yn gyson bod yr hyder a roddir yn ein cymuned ymchwil yn gwbl haeddiannol. Felly, mae’r Brifysgol yn sicrhau bod pawb sy’n ymhél ag ymchwil yn cael eu hyfforddi hyd at y safonau uchaf o ran uniondeb ymchwil, a’u bod yn ymddwyn ac yn cynnal eu gwaith ymchwil mewn ffordd sy’n parchu urddas, hawliau a lles y cyfranogwyr, gan leihau’r risgiau i gyfranogwyr, ymchwilwyr, unrhyw drydydd parti, a’r Brifysgol ei hun.
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Cydnabyddir bod Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Abertawe yn arweinydd byd-eang a’i bod yn cael effaith fyd-eang. Mae sawl aelod o’r Gyfadran wedi cyfrannu at y canlyniad hwn – yr ymchwilwyr a’r cydweithwyr sy’n hwyluso’r amgylchedd ymchwil rhagorol, ynghyd â’r myfyrwyr sy’n trafod ac yn herio syniadau. Mae’r Gyfadran yn gyforiog o dalent ac mae ansawdd ac amrywiaeth yr ymchwil yn wirioneddol eithriadol.
Cyfleoedd Gyrfa
Mae meddu ar radd Meistr trwy ymchwil yn dangos eich bod yn gallu cyfleu eich syniadau a rheoli tasgau. Gallai gradd o’r fath arwain at wahanol fathau o swyddi, er enghraifft yn y byd academaidd, addysg, y llywodraeth, rheoli, y sector cyhoeddus neu’r sector preifat.
Mae Tîm Datblygu Sgiliau’r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig yn cynnig cymorth a fframwaith hyfforddi, er enghraifft wrth greu proffil ymchwilydd ar sail cyhoeddiadau a sefydlu eich busnes eich hun. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn cynorthwyo myfyrwyr gyda chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol, gan wella CVs, ceisiadau am swyddi a sgiliau cyfweld.