Trosolwg o'r Cwrs
Cynlluniwyd y cwrs MRes mewn Gwybodeg Iechyd ar gyfer pobl sydd â phrofiad o wybodeg iechyd ac sydd am gyfrannu at y maes drwy helpu i ddatblygu'r sail wybodaeth.
Mae'r ddisgyblaeth hon, sy'n datblygu, yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o ddarpariaeth iechyd yn yr 21ain ganrif.
Bydd eich cwrs yn adeiladu ar y cwrs MSc Gwybodeg Iechyd llwyddiannus, y mae Prifysgol Abertawe wedi ei gynnig ers 2001.
Bydd eich rhaglen dwy flynedd rhan amser yn cynnwys:
- Ffocws ar ymchwil sylfaenol
- Meithrin sgiliau ymchwil drwy dri modiwl byr wrth i chi ddatblygu eich prosiect ymchwil gwybodeg iechyd ei hun yn ystod naw mis cyntaf y cwrs
- Bydd yr ail flwyddyn yn cynnwys cwblhau traethawd ymchwil estynedig dan oruchwyliaeth
- Gellir cyflawni'r prosiect ymchwil yn eich gweithle eich hun
- Cefnogir yr ymchwil gan sefydliad sydd ag enw da am wneud ymchwil a chewch eich goruchwylio ar sail un i un ar bob cam o'r broses ymchwil
- Drwy bartneriaethau â chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru, gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleoedd ymchwil
- Dysgu seiliedig ar ymarfer
- Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cael budd o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch a'n rhaglenni ymchwil sy'n sgorio'n uchel. Caiff eich gradd ei chyflwyno o fewn Canolfannau Rhagoriaeth Data Gweinyddol ac Ymchwil e-Iechyd Prifysgol Abertawe, sydd wedi ennill gwobrau gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a'r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).
- Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn ganolfan ymchwil feddygol flaenllaw yn y DU
- Cyntaf yn y DU am Amgylchedd Ymchwil
- Ail yn y DU am Ansawdd Ymchwil
- 100% o'r radd flaenaf neu'n rhyngwladol ardderchog o ran effaith (REF 2014)
- Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu defnyddio cyfleusterau'r Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) gwerth £100 miliwn)
- Academyddion yn cyflawni ymchwil o'r radd flaenaf
Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.